Yr actores sy'n rhedeg er mwyn gwella

  • Cyhoeddwyd
Manon Vaughan WilkinsonFfynhonnell y llun, Manon Wilkinson
Disgrifiad o’r llun,

"Un o'r pethau gorau am 'wella' oedd fy nghariad i at redeg," meddai Manon Wilkinson

Ar ôl brwydro gydag anorecsia mae actores o Gaernarfon yn dweud bod rhedeg wedi newid ei byd a'i helpu i wella.

Rhoi un droed o flaen y llall yw'r ateb i Manon Vaughan Wilkinson sydd bellach yn rhedeg hanner marathonau a rasys 10k. Dyma hi i rannu ei stori.

"Fy atgof cynharaf o'r salwch oedd pan roeddwn i'n 13 ar fy ffordd i'r ysgol gyda chinio yn fy mag, a chael yr awydd i gael gwared ohono cyn gynted â phosib, heb wybod na deall pam. Aeth hyn ymlaen am fisoedd yn gyfrinachol cyn i'r cwestiynau a'r dasg o ymwrthod bwyd fynd yn amhosib," meddai Manon Vaughan Wilkinson, actores 33 oed o Gaernarfon.

Yna daeth panig ei mam o sylwi bod rhywbeth o'i le, a hithau'n gwneud apwyntiad i weld y doctor.

"Allai ddim ond dweud bod yr apwyntiadau doctor wedi bod yn drawmatig ar brydiau, gyda'r diagnosis Anorexia Nervosa yn anodd. Gair nad oedd gen i fath o syniad beth oedd o'n golygu," meddai.

"Gair/label sydd dal yn peri trafferth mawr i fi mewn gwirionedd. Falle am fod gas gen i'r syniad o gael fy rhoi mewn bocs."

Roedd camu ar y glorian a wynebu ei phwysau yn erchyll, a dweud y lleiaf, meddai, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n dal i deimlo'n wrthun iddi.

"Ar fy isaf roeddwn i'n pwyso o dan chwe stôn. Ond y gôl oedd cadw BMI iach. Mi es i ymlaen i gael nifer o sesiynau cwnsela a therapi dros y blynyddoedd," meddai Manon.

Ond un o'r pethau a newidiodd ei byd hi oedd rhedeg - ac unwaith iddi gael blas arni, dyw hi ddim wedi stopio.

"Fel un sydd wastad wedi mwynhau rhedeg, ac yn ystod y cyfnodau anoddaf o 'fendio' roedd sylwi beth oedd fy nghorff i'n gallu ei wneud yn anhygoel," meddai.

Hyd heddiw, mae canolbwyntio ar beth mae'r meddwl a'r corff yn gallu ei wneud wedi trawsnewid y meddyliau negyddol i rai positif, meddai eto, ac wedi cynnig ffordd iddi ymdopi gyda'r sialens o fyw gyda'r meddyliau mwy heriol.

"O'r funud y rhedais i fy milltir gyntaf mi wyddwn byddai'r gallu i redeg yn fy achub i mewn rhyw ffordd," mae'n cyfaddef.

"Mae yna rywbeth am y ddisgyblaeth syml o roi un troed o flaen y llall sy'n therapiwtig. Un o fy hoff atgofion oedd cwblhau fy hanner marathon cyntaf yng Nghaerdydd yn 2011, a theimlo ton o emosiwn yn golchi drosta i.

"Y sylweddoliad fod y pen wedi llwyddo i gael y corff i gwblhau rhywbeth arbennig. Y gallu i adael y meddwl yn rhydd. Yr un pen a fyddai blynyddoedd ynghynt wedi nadu unrhyw garedigrwydd o beth yn y byd i fy nghorff i.

"Wrth edrych mor bell dw i wedi dod alla i ddim llai na meddwl efallai bod 'na debygrwydd rhwng 'gwella' a rhedeg. Y milltiroedd hawdd, y rhai anodd, a'r rhai yna dw i ddim wedi eu troedio eto. Ond mae'n stori gwerth ei hadrodd os wneith hi helpu unrhyw un arall sy'n dioddef."

Ffynhonnell y llun, Manon Wilkinson
Disgrifiad o’r llun,

"...yn ystod y cyfnodau anoddaf o 'fendio' roedd sylwi beth oedd fy nghorff i'n gallu ei wneud yn anhygoel"

Camu ymlaen

Yn aml, meddai, mi fydd hi'n dal ei hun yn meddwl cymaint haws oedd bod yng nghrafangau a sicrwydd yr afiechyd o'i gymharu â'r broses hir, llafurus o ddechrau 'gwella'.

"I fi, hwn oedd y cyfnod anoddaf. Y broses o wynebu fy ofnau, chwalu'r meddyliau yr oeddwn i wedi treulio cymaint o amser yn eu credu a thawelu'r lleisiau negyddol," meddai.

"Proses a oedd yn teimlo ar brydiau yn hunllef. Ond yn un erbyn heddiw yr wyf yn falch fy mod i wedi ei chymryd! Un o'r pethau gorau am 'wella' oedd fy nghariad i at redeg."

Hyd heddiw, mae edrych ar luniau o'r cyfnod dal yn peri trafferth iddi, ac mae'n ceisio osgoi ar bob cyfrif.

"Mae'n anodd yn rhannol gan eu bod nhw'n atgofion rhy boenus o ba mor bell mae pethau yn gallu mynd. Hefyd, mae'n codi ofn arna i fod y meddwl yn medru gwrthod y corff i'r fasiwn raddau. Pethau nad oeddwn i ar y pryd yn gallu eu gweld mewn unrhyw ffordd," meddai.

Wrth edrych yn ôl y gwir ydy, meddai eto, nad oedd gan y salwch ddim i'w wneud â bwyd ond yn symptom o broblem ddyfnach.

"Mae'n gyflwr cymhleth sy'n anodd delio ag o. Dros y blynyddoedd mae'n ateb rhy hawdd i awgrymu mai salwch ieuenctid oedd o neu un a achoswyd o golli fy mam yn hwyrach mlaen.

"Ers yn ferch ifanc, roeddwn i'n ymwybodol mod i'n anghyfforddus efo'r syniad o gorff. Mewn byd a oedd yn teimlo allan o reolaeth ac yn greulon ar brydiau, roedd gallu rheoli fy nghorff yn gwneud y cyfan yn haws.

"Mewn byd sydd yn cynnig gormodedd o bopeth mae'r cwestiwn o faint sy'n ddigon yn dal yn anodd i fi.

"Does dim dwywaith amdani fod y salwch yn un fydd yn gyson gysgod i fi. Ond yn un 'dw i nawr yn teimlo alla i ddelio gydag o."

Ffynhonnell y llun, Manon Wilkinson

Stori: Llinos Dafydd

Efallai o ddiddordeb: