Bwrdd iechyd i dalu iawndal £20m am ddiffyg ocsigen i fabi

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr achos yn deillio o lawdriniaeth ar y ferch yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae merch 18 oed a gafodd anaf ddifrifol i'r ymennydd pan roedd yn fabi wedi cael iawndal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro all godi i dros £20m yn y pen draw.

Cafodd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ddiffyg ocsigen yn ystod llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru pan roedd yn bum mis oed.

Bydd y ferch yn derbyn swm cychwynnol o £2.1m, a thaliadau pellach o £203,000 y flwyddyn am weddill ei hoes.

Dywed y bwrdd iechyd bod rhesymau cyfreithiol yn eu hatal rhag gwneud sylw.

Cafodd y setliad ei gyhoeddi gan y Barnwr Robert Harrison yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Ym mis Medi fe gytunodd barnwr fod meddygon wedi methu â sicrhau cyflenwad digonol o ocsigen i'r ferch cyn ac ar ôl iddi gael trafferth anadlu ym mis Chwefror 2000 wrth iddi gael llawdriniaeth at nam ar y bibell fwyd.

'Newid am byth'

Dywedodd mam y ferch: "Pan roedd fy merch fach yn yr ysbyty, fe stopiodd hi anadlu ac yn syml, fe fethodd meddygon â chael ocsigen iddi yn ddigon cyflym.

"Roedd yn wirioneddol ofnadwy... adeg gwaethaf fy mywyd. Roedd gyda fi blentyn hollol normal, ond ro'n i'n gallu gweld newid yn syth.

"Cafodd fy merch ei dwyn oddi arna'i. O'r eiliad honno, roedd hi wedi newid am byth."

Mae'r fam wedi gorfod bod yn gyfrifol am ofalu am y ferch ddydd a nos am 18 mlynedd.

"Mae'r waith llawn amser," meddai. "Mae hi fel babi, mewn gwirionedd. Mae hi'n gallu symud ond dydy hi ddim yn deall beth sy'n mynd ymlaen.

"Es i o gael babi iach i blentyn ag anabledd difrifol, a ninnau'n gwbwl ddi-fai. Wedi dweud hynny, fyddwn i ddim yn ei newid am y byd ac yn ei charu hi yn yr un ffordd yn union."