Apiau paru'n cyfrannu at fwy o achosion o heintiau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Dr Olwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna straen ar wasanaethau, medd Dr Olwen Williams, ac mae angen buddsoddi er mwyn cyrraedd mwy o gleifion

Mae clinigau iechyd rhyw yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r cynnydd yn nifer yr achosion o heintiau, yn ôl Llywydd Cymdeithas Iechyd Rhyw a HIV Prydain.

Dywed y Dr Olwen Williams fod y defnydd o apiau paru yn gwaethygu'r broblem, a bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau atal afiechydon.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd rhyw yng Nghymru yn ddiweddar, a'u bod wrthi'n gweithredu argymhellion yr adolygiad hwnnw "yn llawn".

Rhwng 2016 a 2017 roedd yna gynnydd o 53% yn nifer yr achosion newydd o siffilis yng Nghymru, a chynnydd o 21% yn nifer yr achosion newydd o gonorrhea, yn ôl ystadegau diweddara' Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywed Dr Williams, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nad ydy hi erioed wedi gweld gymaint o achosion o siffilis a gonorrhea.

Mae'r patrwm yng Nghymru, meddai, yn debyg ar draws y DU ac mae pobol o bobl oedran yn cael eu heffeithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae apiau'n gwneud hi'n haws i bobl gyfarfod ond yn fwy anodd rhoi gwybod bod rhywun wedi cael ei heintio ar ôl rhyw

"Mae'r ffordd ma' pobol yn cyfarfod ei gilydd wedi newid," dywedodd wrth raglen Post Cyntaf.

"Mae defnyddio hook-up apps a dating apps yn un peth. 'Da ni hefyd yn gw'bod bod pobol yn llai cytûn i ddefnyddio condoms.

"Hefyd ma'r anhawster sydd gynnon ni i gael gafael ar bobol sydd e'lla wedi heintio rhywun, drwy'r ffaith bod nhw'n fwy anonymous ag oeddan nhw pan oeddan nhw ddim ar ap."

Ychwanegodd bod anawsterau cael apwyntiad meddygol o fewn 48 awr o gael rhyw anniogel yn arwain at ledaenu heintiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Williams bod tystiolaeth yn awgrymu bod llawer o bobl yn dal â gormod o gywilydd i drafod a dylid defnyddio condom

Rhwng 2011 a 2016 fe ddyblodd nifer y bobl a aeth i glinigau iechyd rhyw yng Nghymru - o 86,000 i 176,000 - ac mae Dr Williams yn galw am fuddsoddi mwy o arian yn y maes er mwyn cyflogi mwy o staff a darparu mwy o wasanaethau.

Mae hefyd yn galw am weithredu argymhelliad yn Adolygiad Iechyd Rhyw diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu pecynnau profi ar-lein.

Mae eisoes yn bosib yn Lloegr a'r Alban i bobl archebu pecynnau prawf HIV, gonorrhea a chlamydia ar-lein i'w defnyddio yn eu cartrefi eu hunain a'u dychwelyd trwy'r post a chael canlyniadau heb orfod mynd i glinig neu feddygfa.

"Mae hwnna'n rwbath neith wahaniaeth mawr i bobol sydd mewn ardaloedd gwledig neu'n methu dod i fewn i'n cliniga' ni, ac wrth gwrs mae o'n fwy anonymous bod nhw ddim yn gorfod mynd i fewn i weld doctor," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys cynllun peilot ar-lein "sydd yn rhoi gwybodaeth, asesiad risg, pecynnau prawf iechyd rhyw a gwasanaeth cyfeirio pobl am driniaeth lle mae'n briodol".