Simon Thomas yn pledio'n euog i greu delweddau anweddus

  • Cyhoeddwyd
Simon Thomas llys
Disgrifiad o’r llun,

Simon Thomas yn cyrraedd Llys Ynadon Aberystwyth fore Mercher

Mae cyn-aelod Cynulliad a Seneddol Plaid Cymru, Simon Thomas, wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Roedd yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth fore Mercher.

Clywodd y llys fod Mr Thomas wedi cyfadde' creu mwy na 500 o ddelweddau anweddus o blant a dros 70 o fideos.

Roedd 94 o'r lluniau a 56 o'r fideos yn y categori mwyaf difrifol, categori A.

Fe blediodd yn euog hefyd i greu 87 llun a 16 fideo anweddus o blant o fewn categori B, a hefyd i'r trydydd cyhuddiad o greu 354 o luniau a 5 fideo o fewn categori C.

Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth ar yr amod ei fod yn ildio ei basport ac nad oedd yn cysylltu gydag unrhyw blentyn o dan 16 oed heb oruchwyliaeth.

Bydd Mr Thomas, sy'n byw yn Aberystwyth, yn ymddangos nesaf yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar 31 Hydref.