Cymeradwyo safle i sipsiwn a theithwyr ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i greu safle i sipsiwn a theithwyr ar Ynys Môn wedi cael eu cymeradwyo yn dilyn pleidlais agos gan bwyllgor cynllunio'r cyngor.
Bydd lle i 10 carafán ar safle sy'n cael ei adeiladu ar dir fferm rhwng yr A5 a'r A55 ger Y Gaerwen.
Mae gorfodaeth ar gynghorau lleol Cymru i ddarparu safleoedd swyddogol i sipsiwn a theithwyr dan ddeddfau tai a hyd yma nid oedd gan Ynys Môn safle o'r fath.
Ym mis Medi, gwrthododd y pwyllgor y cynlluniau, ac yn y cyfarfod ddydd Mercher, dim ond un bleidlais o blaid gan gadeirydd y pwyllgor a arweiniodd at gymeradwyo'r cais.
'Safle anaddas'
Roedd rhai aelodau wedi dadlau bod y tir yn "anaddas, yn wlyb ac yn beryglus" gyda phryderon bod y ffens 2.4 metr arfaethedig am effeithio'n wael ar dwristiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones: "Mae pobl leol wedi dweud ers y cychwyn nad yw'r safle'n addas i neb fyw. Does dim byd wedi newid ers i'r cynllun gael ei wrthod fis diwethaf."
Wrth i'r cynllun gael ei gymeradwyo, cyfeiriodd rywun at y safle fel "gwersyll-garchar" o'r galeri cyhoeddus.
Fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Ken Hughes bod cynghorwyr yn "meddwl am bob esgus dan haul" i wrthod y cynnig, ac nad oedd unrhyw "reswm cynllunio" dros ei wrthod.
Yn ogystal, nid oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru na chwaith Heddlu Gogledd Cymru unrhyw wrthwynebiad swyddogol i'r cais, er bod yr heddlu wedi crybwyll bod y safle'n agos iawn i'r A5.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod bod y cyngor yn gorfod darparu safle i deithwyr yn ôl y gyfraith.
"Dangosodd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a Gwynedd yn 2016 bod angen safleoedd i deithwyr aros am gyfnodau byrion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017