'Go home Polish': Profiadau Michal o gerdded adref
- Cyhoeddwyd
Ym mis Gorffennaf fe siaradodd Cymru Fyw gyda'r ffotograffydd Michal Iwanowski o Wlad Pwyl sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd.
Roedd Michal yn cydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar brosiect 'Go home, Polish', a gafodd ei sbarduno gan graffiti a welodd yng Nghaerdydd.
Fel rhan o'r prosiect fe gerddodd Michal o Gaerdydd i'w bentref genedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl.
Mae Michal bellach nôl yng Nghymru ac yn arddangos y lluniau a dynnodd ar hyd ei daith. Mae wedi bod yn cydweithio gyda cherddorion o Gymru, gan gynnwys Gwenno a WH Dyfodol.
Dywed Michal fod y daith wedi cael effaith arno: "Yn gorfforol i ddweud y gwir, fe wnaeth Yr Almaen brofi fy ewyllys.
"Fe roedd 'na heat wave di-baid ac roedd e fel bod y ffordd yn mynd fyny rhiw o hyd, ac roedd gen i lawer o bryfaid yn gwmni. Byddai hynny wedi bod yn iawn am gwpl o ddyddie, ond mae 105 o ddyddie yn stori arall."
Ar y daith fe gafodd nifer o brofiadau, gan gyfarfod pobl cofiadwy.
"Roedd 'na bobl addfwyn, ac mae gen i restr hirfaith o bobl dwi wedi cwrdd lle'r oedd e'n ymddangos yn ddigon pitw ar y pryd, ond eto'n rhywbeth dwfn.
"Roeddwn i'n teimlo'n gartrefol lle bynnag yr oeddwn i, ac ym mhobman es i, gyda 'chydig iawn o eithriadau, roedd bobl yn garedig, ffeind ac yn cymryd diddordeb.
"Wnes i ddatblygu cyfeillgarwch gydag ysgrifennwr gwych yn Ghent, a wnaeth gadw cwmni i fi'r holl ffordd o Wlad Belg i Wlad Pwyl drwy bodlediadau byr yr oedd hi'n eu recordio yn ddyddiol.
"Roedd 'na ambell i stori emosiynol hefyd, fel stori Ursula a'i chartref sydd bellach o dan ddŵr, ers i'r dref gael ei boddi. Dwi'n cofio ei gweld; dynes hŷn yn sefyll ar gyrion llyn, yn edrych ar ei phlant sydd bellach yn oedolion yn nofio uwchben adfeilion ei thŷ sydd o dan y dŵr ers degawdau.
"Roedd hefyd stori dynes 94 oed o'r enw Cacile, gafodd ei geni yn agos i'r un lle â fi, pan oedd yn rhan o'r Almaen (mae bellach yn rhan o Wlad Pwyl). Fe aeth hi ar daith debyg i fy un i 70 mlynedd yn ôl, ond y ffordd arall.
"Mae rhain yn straeon sy'n gallu cael eu hystyried yn fyrhoedlog, ond eto rhai allen i uniaethu â nhw."
Mae mwy am y cymeriadau wnaeth Michal gwrdd â nhw ar ei daith ar ei gyfrif instagram, dolen allanol.
Mae Michal yn credu bod hiliaeth wedi amlygu ei hun yn ddiweddar, felly a wnaeth y prosiect yma wneud iddo deimlo'n fwy cadarhaol am y mater?
"Yn bersonol dwi lot fwy positif. Efallai mai fy lwc i oedd e i gyfarfod y bobl iawn, ond dwi'n fwy crediniol nag erioed y byddai'r un llais negyddol hwnnw bob amser yn fwy swnllyd na chant o rhai positif.
"Efallai ei fod rhywbeth i'w wneud â'r ffordd rydym yn dosbarthu gwybodaeth a beth rydym yn dewis ei gyflwyno i'n cynulleidfaoedd - ac fel arfer newyddion trafferthus a phroblematig sy'n teithio ymhell."
Sut felly mae Michal yn teimlo am ddod 'nôl i Gymru? Ai dyma ei gartref bellach?
"Ie, dyma yw fy nghartref. Roeddwn i'n teimlo rhyddhad mawr yn dod 'nôl i Gaerdydd.
"Does gen i ddim split personality a hunaniaethau cenedlaethol dwy wlad - dwi'n un, a dwi'n hapus iawn i gael dau gartref.
"Ond yng Nghymru mae fy mywyd yn golygu symud ymlaen, lle yng Ngwlad Pwyl mae e'n golygu hiraethu ac edrych nôl. Mae hyn yn gallu bod yn boenus ar adegau, fel gweld lluniau o'ch plentyndod yn pylu. Mae'r llun o Gymru dal yn datblygu.
"Rydw i wedi ffeindio cartref mewn llefydd newydd, a gyda phobl newydd, ac mae hynny wedi fy helpu i gael gwared ar rywfaint o sinigiaeth sydd wedi bod gyda fi ers blynyddoedd."