Plaid Cymru i enwebu Adam Price fel prif weinidog

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Bydd Plaid Cymru'n enwebu Adam Price i fod yn brif weinidog pan mae Llafur Cymru'n cael arweinydd newydd.

Bydd hynny'n arwain at bleidlais yn y Cynulliad ar ôl i olynydd Carwyn Jones gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Cyn ail ddiwrnod cynhadledd ei blaid yn Aberteifi, dywedodd Mr Price ei fod yn "gyfle i sicrhau newid digynsail".

Fe wnaeth pleidlais i ail-ddewis Mr Jones fel prif weinidog yn dilyn etholiad Cynulliad 2016 orffen yn gyfartal.

'Dau ddegawd o ddirywiad'

Yn siarad ar Newyddion 9, dywedodd Mr Price: "Gyda'r prif weinidog presennol yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr, mae hyn yn gyfle euraidd am newid i Gymru.

"Dyw ein cenedl wedi profi dim ond prif weinidogion Llafur.

"Maen nhw wedi arwain dros bron i ddau ddegawd o ddirywiad, gan adael Cymru ar waelod bron i bob tabl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynhadledd Plaid Cymru'n cael ei chynnal yn Aberteifi dros y penwythnos

Fe wnaeth ACau'r Ceidwadwyr a UKIP gefnogi enwebiad Leanne Wood i fod yn brif weinidog yn 2016, a petai'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol wedi ei chefnogi hefyd byddai Ms Wood wedi bod yn brif weinidog.

Ond fe wnaeth y bleidlais orffen yn gyfartal, gan arwain at gytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, wnaeth alluogi i Carwyn Jones gymryd y swydd.

Ers y bleidlais mae Dafydd Elis-Thomas wedi gadael Plaid Cymru i ymuno â'r llywodraeth, gan roi mwyafrif o un i Lafur.

'Cyfle digynsail'

Dywedodd Mr Price na fyddai Plaid Cymru'n ceisio cefnogaeth y gwrthbleidiau eraill y tro hwn.

"Bydd ACau o bob plaid sydd â gwir awydd gweld diwedd ar arweiniad di-fflach Llafur yn defnyddio'r bleidlais i droi'r syniad yn realiti," meddai.

"Mae hyn yn gyfle digynsail i sicrhau newid digynsail. Mae Plaid Cymru yn bwriadu manteisio ar y cyfle."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leanne Wood ei bod eisiau Cymu "ble gall pobl siarad Cymraeg heb broblem"

Yn siarad yng nghynhadledd y blaid ddydd Sadwrn dywedodd y cyn-arweinydd, Ms Wood bod adeiladu cymdeithas sy'n cael gwared â hiliaeth a ble does dim trais yn erbyn merched yn "rhan ganolog" o achos Plaid Cymru.

"I mi, mae adeiladu cymdeithas ble mae pobl trans yn gallu bod yn nhw eu hunain, ble does dim hiliaeth, ble gall pobl siarad Cymraeg heb broblem, ble mae merched yn rhydd rhag trais a dyw'r dde eithafol ddim yn bygwth ein cymunedau yn rhan ganolog o'n hachos," meddai.

"Rydyn ni eisiau creu Cymru annibynnol er mwyn creu cymdeithas well i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Liz Saville-Roberts yw cynrychiolydd Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan

Yn y cyfamser bydd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts yn cyhoeddi y bydd ei phlaid yn gweithredu i geisio cynyddu nifer y menywod sy'n ymgeisio dros y blaid.

Ddydd Gwener fe wnaeth y gynhadledd gefnogi syniadau fel paru etholaethau er mwyn cynnig un ymgeisydd benywaidd ac un gwrywaidd, a gofyn i bob etholaeth ddarganfod tair menyw all roi eu henwau ymlaen i fod ar gofrestr genedlaethol y blaid.

Dywedodd Ms Saville-Roberts: "'Gweithredoedd nid geiriau' - dyna oedd cri y menywod wnaeth ymladd dros y bleidlais dros ganrif yn ôl.

"Gyda'r gri honno rydw i'n gofyn, os nad nawr, pryd?"