Gwrthwynebu gwahardd cŵn o gaeau chwarae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jack Russell
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r gwaharddiad

Mae perchnogion cŵn ac RSPCA Cymru wedi beirniadu cynlluniau allai weld Cyngor Caerdydd yn gwahardd cŵn o gaeau chwarae yn y brifddinas.

Nod y cynnig yw cadw baw ci oddi ar y caeau, ond mae dros 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y gwaharddiad.

Dywedodd yr RSPCA bod y cynlluniau i gyflwyno Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus, dolen allanol yn "peri pryder" iddynt.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae'r cyngor wedi rhoi 142 o ddirwyon i bobl am beidio â chodi baw ci.

Byddai'r cynigion, sy'n destun ymgynghoriad, hefyd yn gweld y dirwyon hyn yn codi o £80 i £100.

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r caeau chwarae yma ym Mhontcanna yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad

Ond dywedodd Leslie Brown o Sain Ffagan, sy'n cerdded ei chŵn ar gaeau Pontcanna dair gwaith yr wythnos, ei fod yn gynllun "anghyfrifol" gan y cyngor.

"Beth fyddai'r pwynt o gael ci? Mae ci angen bod yn iach ac mae gennych chi'r cyfrifoldeb i'w gerdded," meddai.

Ychwanegodd Ms Brown ei bod yn pryderu am yr effaith gymdeithasol y byddai'r gwaharddiad yn ei gael, am fod cerdded cŵn yn "helpu pobl i gyfarfod ei gilydd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leslie Brown yn cerdded ei chŵn ar gaeau Pontcanna dair gwaith yr wythnos

Dywedodd Ben McManus, 33 oed, sy'n rhedeg busnes cerdded cŵn ym Mhontcanna, gallai'r busnes ddod i ben pe bai cynlluniau'r cyngor yn cael eu cymeradwyo.

"Byddai'n cael effaith negyddol ar bob un ci ry'n ni'n gweithio â nhw," meddai.

'Hollol hunanol'

Daw cynigion y cyngor wedi i dimau rygbi a phêl-droed gwyno am faw ci ar eu caeau.

Yn ôl un o hyfforddwyr Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, Ian Titherington, mae "lleiafrif bychan o berchnogion cŵn yn hollol hunanol".

Dywedodd llefarydd ar ran RSPCA Cymru eu bod yn "falch o weithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ac yn eu hannog i beidio gwahardd cŵn o gaeau chwarae yng Nghaerdydd, yn arbennig ble nad oes llefydd arall i'w cerdded ar gael gerllaw".

Ychwanegodd llefarydd o Gyngor Caerdydd: "Bob blwyddyn ry'n ni'n derbyn nifer o gwynion am faw ci a chŵn allan o reolaeth mewn mannau cyhoeddus, a tra bo'r mwyafrif o berchnogion yn gyfrifol ac yn gwneud y peth iawn mae lleiafrif sy'n achosi problemau sylweddol.

"Byddai cyflwyno Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus yn galluogi i'r cyngor daclo'r niwsans fel y gall ein mannau cyhoeddus gael eu mwynhau yn ddiogel gan bawb."