Uwch Gynghrair Lloegr: Tottenham Hotspur 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Tottenham Hotspur ar y blaen o fewn 10 munud trwy gôl Eric Dier

Mae Caerdydd yn parhau heb fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma ar ôl cael eu trechu mewn gêm agos yn erbyn Tottenham Hotspur yn Wembley.

Aeth Caerdydd ar ei hôl hi o fewn 10 munud, gydag Eric Dier yn rhwydo wedi i Joe Bennett lwyddo i atal peniad Davinson Sanchez.

Roedd yr Adar Gleision i lawr i 10 chwaraewr yn dilyn 58 munud, wedi i Joe Ralls weld cerdyn coch am dacl wael ar Lucas Moura.

Daeth yr ymwelwyr yn agos at ei gwneud yn gyfartal yn fuan wedi hynny wrth i Hugo Lloris wthio peniad y capten Sean Morrison ar y postyn, ond llwyddodd y tîm cartref i ddal eu gafael yn y triphwynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Joe Ralls gerdyn coch am dacl wael ar Lucas Moura