Pro14: Dreigiau 15-23 Gleision
- Cyhoeddwyd
Y Gleision oedd yn fuddugol yn y gêm dderbi rhwng rhanbarthau'r dwyrain wrth iddyn nhw drechu'r Dreigiau mewn gêm agos yn Rodney Parade nos Sadwrn.
Cafodd y Dreigiau ddechrau sydyn, gyda Josh Lewis a Jared Rosser yn sgorio ceisiau yn yr 20 munud agoriadol.
Llwyddodd Owen Lane i ymateb gyda chais i'r Gleision, ond roedd y tîm cartref yn parhau ar y blaen o 12-5 ar yr egwyl.
Daeth y Gleision yn ôl o fewn pwynt i'r Dreigiau ar ddechrau'r ail hanner yn dilyn dwy gôl gosb gan Gareth Anscombe, cyn i'r tîm cartref ymestyn eu mantais unwaith eto gyda gôl gosb gan Jordan Williams.
Fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio dau gais o fewn ychydig funudau gydag 20 munud yn weddill, gyda'r bachwr Kristian Dacey yn croesi cyn i Lane ychwanegu ei ail gais o'r gêm.
Y Gleision fu'n parhau i bwyso am y chwarter awr olaf, ond doedden nhw ddim yn gallu canfod pedwerydd cais ar gyfer eu pwynt bonws.