'Cofleidio'r Gymraeg yn rhywbeth positif'
- Cyhoeddwyd
Sgwrs mewn tafarn a blannodd hedyn o syniad ym meddwl sylfaenydd canolfan iaith yn Ninbych, a hynny 30 mlynedd yn ôl.
Cafodd Canolfan Iaith Clwyd - bellach Popeth Cymraeg - ei sefydlu gan David Jones yn 1988, ac mae digwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu pen-blwydd pwysig y ganolfan, sydd wedi helpu miloedd o bobl yr ardal a thu hwnt i ddysgu Cymraeg.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, ynglŷn â hanes y ganolfan a'i ddylanwad ar y gymuned yn Ninbych.
Nôl ym 1988 roedd David Jones newydd ddod yn Faer Dinbych. Roedd yn gymeriad amlwg iawn yn lleol oherwydd ei ddiddordebau amrywiol ac anarferol. Roedd yn wlatgarwr mawr ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ar ei liwt ei hun ers blynyddoedd.
Un noson aeth criw ohonom i'r dafarn a throdd y sgwrs i waith ymchwil roeddwn i wedi'i wneud ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr hen Glwyd. Roedd y gwaith ymchwil yn dangos dirywiad sylweddol yng nghanrannau siaradwyr Cymraeg y sir.
Ynghanol y drafodaeth digwyddais wneud sylw ffwrdd â hi, braidd, y byddai'n fuddiol iawn petai gennym ganolfan iaith yn Nyffryn Clwyd i geisio atal y dirywiad. Neidiodd David ar y syniad a chychwyn ymgyrch i sefydlu canolfan o'r fath yn y dyffryn.
Galwodd gyfarfod cyhoeddus a fynychwyd gan ryw 180 o bobl, sefydlu Ymddiriedolaeth Canolfan Iaith Clwyd a dyna oedd cychwyn y broses a arweiniodd at agor Canolfan Iaith Clwyd yn adeilad hen lyfrgell Dinbych ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Roedd David yn feistr ar ddenu cefnogaeth o sawl cyfeiriad ac roedd cyflymder y broses o agor y ganolfan, ar ôl sicrhau cefnogaeth gan y cyngor sir a nifer helaeth o sefydliadau eraill, yn dyst i'w sgiliau i berswadio ac ysbrydoli.
Syniad David Jones hefyd oedd sefydlu amgueddfa radios yn y ganolfan - ei gasgliad personol o hen radios yw sail yr arddangosfa Gwefan Heb Wifrau sydd yn 10 oed eleni.
Roedd David o'r farn fod y radio wedi bod yn gyfrwng allweddol i sicrhau parhâd y cysyniad o Gymru fel cenedl. Roedd yn aml yn dadlau fod bodolaeth y Wales Region gwreiddiol a ddaeth wedyn yn BBC Cymru yn un o'r pethau oedd yn dynodi ein bod yn genedl nid dim ond yn rhan o ryw Orllewin Prydain niwlog.
Oherwydd ei ddealltwriaeth dechnegol o'r cyfrwng roedd David hefyd yn ymwybodol iawn o ran Cymru yn y broses o ddatblygu'r dechnoleg yn y lle cyntaf ac roedd yn dymuno cael cyfle i adrodd y ddwy stori.
Roedd lleoli'r amgueddfa yn y ganolfan iaith yn Ninbych yn benderfyniad naturiol am sawl rheswm. Yn y lle cyntaf, cyswllt David â'r ddwy fenter. Yn ail, pwysigrwydd datblygiad radios i ffyniant y Gymraeg ac yn drydydd roedd y casgliad hynod drawiadol o hen radios yn gaffaeliad gweledol i'r ganolfan ac yn tynnu cynulleidfa ehangach i mewn i'r adeilad.
Pa mor llwyddiannus mae'r ganolfan wedi bod?
Yn amlwg, dydy dysgu Cymraeg i Oedolion ddim yn mynd i wyrdroi sefyllfa'r iaith ar ei ben ei hun. Mae'n rhan o glytwaith o gyrff sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol, cyrff megis ysgolion Cymraeg, Menter Iaith Sir Ddinbych, y Mudiad Meithrin ac eraill.
Mae Popeth Cymraeg, fodd bynnag, oherwydd ei broffeil cyhoeddus amlwg yn hyrwyddo gwersi Cymraeg i Oedolion, wedi tynnu sylw at y Gymraeg ac wedi troi'r cysyniad o gofleidio'r Gymraeg yn gyffredinol yn rhywbeth positif.
Mae'r effaith hwn wedi bod yn ehangach na'r niferoedd o oedolion sydd wedi mynychu dosbarthiadau dros y blynyddoedd (dros 10,000 o leiaf yn ystod y 30 mlynedd diwethaf - ffigwr ceidwadol o bosib).
Cyn sefydlu'r ganolfan roedd y Gymraeg, i raddau helaeth, yn anweladwy yn Ninbych. Mae cael canolfan bwrpasol ar gyfer dysgu Cymraeg wedi rhoi Dinbych ar y map gyda myfyrwyr yn teithio o gryn bellter, weithiau, i fynychu rhai o'r cyrsiau a gynhelir yma.
Mae sefydlu'r ganolfan hefyd wedi bod yn fodd i arbrofi gyda dulliau dysgu iaith arloesol ac rwy'n credu mai dyma brif gyfraniad y corff dros y blynyddoedd.