Codi arian at gofeb i filwyr a laddwyd ar Arenig Fawr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi dechrau yn Y Bala i godi £3,000 i gael cofeb newydd ar gopa mynydd Arenig Fawr i gofio am wyth Americanwr a fu farw yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar 4 Awst, 1943, ar ei thaith yn ôl i ganolfan hyfforddi yng nghanolbarth Lloegr, tarodd awyren B17 Flying Fortress yn agos i gopa'r Arenig gan ladd yr wyth oedd arni.
Mae'r gofeb lechen bresennol wedi dirywio'n arw, a'r gobaith yw cael cofeb efydd newydd yn ei lle erbyn y gwanwyn.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r Bala ar Gyngor Gwynedd, fod y gofeb mewn cyflwr "truenus".
"Mae'r gofeb wedi bod yno ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac wrth gerdded i fyny Arenig yn ddiweddar mi sylwais fod y gofeb mewn cyflwr truenus iawn ac yn wir 'de chi ddim yn gallu darllen enwau'r bechgyn erbyn hyn.
"Ro' ni'n meddwl am y bechgyn yma wedi cael eu lladd mor bell o adref i fyny mewn lle unig ar dop Arenig, felly dyma fi'n penderfynu casglu arian i gael cofeb newydd a 'de ni'n gobeithio cael un mwy sylweddol neith ddal y tywydd."
Yn ôl Trevor Jones, Ysgrifennydd Cangen Y Bala o'r Lleng Brydeinig, mae'n holl bwysig cofio am yr wyth fu farw.
"Yng Ngwasanaethau'r Eglwys 'de ni'n cofio'r enwau yn y gweddïau ar y Sul cyntaf agosaf at 4 Awst, ac mae hyn yn bod ers yr 1980au pan roedd cyn aelodau o'r awyrlu yn dod o Wrecsam a Chaer i ddringo'r mynydd at y gofeb ac yn cael gwasanaeth wedyn yn yr Eglwys," meddai.
"Roedd yr hogie ifanc yma o'r Unol Dalaethiau yma i helpu efo amddiffyn Gwledydd Prydain ac Ewrop rhag y Natsïaid ... dylen ni byth anghofio'r Holocost ac mae'n bwysig iawn cofio'r bechgyn ifanc yma".
Mae Cyngor Tref Y Bala a Chyngor Gwynedd wedi dweud y byddan nhw'n fodlon cyfrannu arian at gofeb newydd.