Gwasanaeth i gofio 100 mlynedd ers suddo'r RMS Leinster

  • Cyhoeddwyd
RMS LeinsterFfynhonnell y llun, rmsleinster100.com

Roedd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Caergybi ddydd Mercher i gofio trigolion y dref fu farw pan gafodd llong yr RMS Leinster ei suddo 100 mlynedd yn ôl.

Roedd y Leinster ar ei ffordd yn ôl o Dun Laoghaire yn Iwerddon i Gaergybi ar fore 10 Hydref, 1918, pan gafodd y llong ei tharo gan ffrwydron o longau tanfor Almaenig.

Cafodd y Leinster ei suddo, gan ladd 560 o'r 700 o bobl oedd ar y llong - 27 o Gaergybi.

Dyma yw'r trychineb fwyaf i ddigwydd ym Môr Iwerddon erioed, ac fe ddigwyddodd cwta fis cyn i ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben.

Gweithred anghyfiawn

Fe gafodd y suddo effaith enfawr ar Gaergybi a'i phobl.

Roedd 45 milwr ac un morwr eisoes wedi marw yn 1918, a'r Leinster oedd y drydedd llong o Gaergybi i gael ei cholli oherwydd y rhyfel.

Credai nifer o bobl Caergybi fod eu colledion yn anghymesur i faint y dref, ond roedd drwgdeimlad ynglŷn â'r digwyddiad yn bodoli ar hyd Ewrop.

Gan fod y trafodaethau heddwch gyda'r Almaen eisoes wedi dechrau, roedd nifer o'r pwerau gorllewinol yn credu fod ymosod ar y Leinster yn weithred anghyfiawn.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd digwyddiadau ar hyd yr wythnos i nodi'r canmlwyddiant, gan gynnwys y gwasanaeth ddydd Mercher

Yn ôl yr hanesydd, Dr Gareth Huws, roedd yna "sgil effeithiau mawr" i'r ffaith fod y cadoediad wedi digwydd mor fuan wedi'r trychineb.

Dywedodd fod "teimladau cryf ymysg pobl fod angen dial ar yr Almaen ar ôl digwyddiad mor erchyll", ond nad oedd cyfle i wneud hynny cyn diwedd y rhyfel.

Ychwanegodd fod amheuon bod y dial wedi digwydd yn hwyrach, drwy'r telerau a osodwyd ar yr Almaen yn dilyn y rhyfel.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Gareth Huws (chwith) ac Edwyn Hughes o Amgeueddfa Forwrol Caergybi (dde)

Dywedodd Edwyn Hughes o Amgueddfa Forwrol Caergybi ei bod hi'n "bwysig dal i gofio".

Ychwanegodd bod yr amgueddfa yn "ceisio dweud hanes be' ddigwyddodd i'r Leinster a llongau eraill gafodd eu colli yn y Rhyfel Byd Cyntaf".

Bydd digwyddiadau eraill ar hyd yr wythnos i gofio'r digwyddiad.