Gwadu honiad fod cyllideb yn 'ffafrio cynghorau Llafur'

  • Cyhoeddwyd
Janet Finch-SaundersFfynhonnell y llun, Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Janet Finch-Saunders fod cynghorau Llafur wedi cael setliad ariannol mwy hael

Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiad gan y Ceidwadwyr eu bod wedi rhoi mwy o arian yn fwriadol i gynghorau Llafur y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Janet Finch-Saunders fod cynghorau Conwy, Ynys Môn a Sir y Fflint wedi gweld toriadau o 1%, ond bod Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd wedi cael cynnydd.

Ychwanegodd fod y setliad yn cael ei ystyried gan rai fel un "llwythol a diog".

Ond dywedodd y gweinidog Mark Drakeford fod y fformiwla gafodd ei ddefnyddio i benderfynu ar lefelau cyllid yn "seiliedig ar gyngor arbenigol", a bod llywodraeth leol wedi cytuno arno.

Wrth holi Mr Drakeford yn ystod Cwestiynau Cyllid yn y Cynulliad, dywedodd Ms Finch-Saunders: "Mae llawer yng Nghymru yn ystyried y setliad diweddaraf i fod yn un llwythol a diog gan lywodraeth Lafur Cymru.

"Pa esgus posib arall allwch chi ei gynnig ar gyfer setliad llywodraeth leol sydd mor annheg ac anghyfiawn?"

Wrth ymateb dywedodd Mr Drakeford: "Dylai'r aelod dynnu ei chyhuddiad fod y fformiwla cyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn llwythol mewn unrhyw ffordd yn ôl, mae'n gwybod nad yw hynny'n wir.

"Rydyn ni'n dod i gytundeb gyda llywodraeth leol bob blwyddyn am y fformiwla."

Ffynhonnell y llun, Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Mark Drakeford nad oedd unrhyw wirionedd yn honiadau Ms Finch-Saunders

Ychwanegodd fod y newidiadau diweddaraf yn "ffafrio ardaloedd mwy gwledig Cymru" gan eu bod yn cydnabod ffactorau fel poblogaeth fwy gwasgaredig.

"Nid Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla, mae'n cael ei benderfynu ar sail cyngor arbenigol gyda chytundeb llywodraeth leol."

Dywedodd Mr Drakeford fod Cyngor Conwy, ble mae etholaeth Aberconwy Ms Finch-Saunders, wedi derbyn llai o gyllid oherwydd bod diweithdra, a nifer y disgyblion uwchradd a chynradd oedd yn cael prydau am ddim, wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ddydd Mawrth dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, Mark Isherwood, fod setliad cyllidol ar gyfer awdurdodau lleol yn "gic yn y dannedd i ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru".