Actorion byd-enwog yn helpu banc bwyd Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Sut mae denu rhagor o bobl i wirfoddoli gyda banciau bwyd?
Mae'n her barhaol i elusennau i gael digon o fwyd addas i'w ddosbarthu i bobl mewn angen, ac i sicrhau bod digon yn rhoi o'u hamser i wirfoddoli.
Ym Mhort Talbot, mae gwirfoddolwyr wedi cychwyn ymgyrch dra gwahanol i ddenu rhoddion a gwirfoddolwyr newydd.
Mae aelodau o fanc bwyd Trussell Trust y dref wedi perswadio rhai o sêr y byd ffilm a theledu i ddangos eu cefnogaeth i'w gwaith nhw yn Eglwys Carmel.
Mae'r enwogion wedi llofnodi'r tu fewn i amlinelliad o'u dwylo a'u hanfon i'r banc bwyd i'w rhoi ar faner fawr yn y festri.
Ar y faner mae llofnodion Syr Ian McKellen, Matthew Rhys - a enillodd wobr Emmy am yr actor gorau fis diwethaf, yr actor o Bort Talbot Michael Sheen, Rhys Ifans, Jo Brand, a mwy.
Pauline Woolcock gafodd y syniad yn wreiddiol.
"Anfonais lythyrau iddyn nhw i gyd gyda llaw a llofnod fi fy hunan ynddo fe, a stamp self-addressed amlen, ac maen nhw wedi dod 'nôl trwy'r wythnosau.
"Mae wedi bod yn exciting iawn yn y bore i weld beth sy'n dod trwy'r drws!
"Yn y Grand Theatre yn Abertawe anfonais i lythyrau, ac mae'r Grand wedi helpu i roi'r llythyrau yn yr ystafelloedd gwisg ac maen nhw jyst wedi dod 'nôl yn y post."
'Teimlo rhyw gywilydd'
I Margaret Jones - un arall sy'n gwirfoddoli yn y banc bwyd, mae'n gyfle i ddangos i bobl sy'n derbyn cymorth oddi wrthyn nhw bod 'na bobl ar draws y byd yn eu cefnogi.
"Ry'n ni eisiau rhagor o wirfoddolwyr, ry'n ni eisiau rhagor o roddwyr, ry'n ni eisiau rhagor o arian wrth gwrs i gynnal yr achos.
"Mae'n bwysig bod nhw'n gweld bod pobl maen nhw wedi clywed amdanyn nhw, maen nhw wedi gweld ar y teledu ac ati, yn cefnogi nhw hefyd.
"Achos mae llawer o bobl sy'n dod aton ni moyn help, mewn gwirionedd maen nhw'n aml iawn mewn argyfwng dros dro yn unig, ac maen nhw'n teimlo rhyw gywilydd.
"A [nawr] maen nhw'n gweld, 'O, mae Matthew Rhys yn cefnogi ni, mae Michael Sheen yn cefnogi ni' - mae hwnna'n beth da."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018