300 swydd yn y fantol wrth i swyddfa gau yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Redwither TowerFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y cwmni swyddfeydd ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Mae cwmni gwasanaethau ariannol yn bwriadu cau ei swyddfa yn Wrecsam, gan olygu colli 300 o swyddi.

Mae gan gwmni Refinitiv, sy'n rhan o grŵp Thomson Reuters, safle ar stad ddiwydiannol y dref.

Dywedodd y cwmni y byddan nhw'n dechrau ymgynghoriad gyda staff.

Ar 1 Hydref, fe brynodd cwmni Blackstone 55% o Refinitiv - gyda Thomson Reuters yn cadw 45%, gwerth $20m.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd Thomson Reuters ei fod yn creu cwmni newydd ar wahân, gyda'r enw Refinitiv, fyddai'n parhau i ddarparu data i sefydliadau ariannol.

'Ergyd ofnadwy'

Dywedodd llefarydd: "Wrth i Refinitiv ddechrau fel menter newydd, ar wahân sy'n canolbwyntio ar farchnadoedd ariannol, rydyn ni eisiau sicrhau bod gyda ni'r bobl iawn yn y llefydd iawn i sicrhau canlyniadau i'n cwsmeriaid mewn amgylchedd cystadleuol iawn.

"O ganlyniad rydyn ni'n bwriadu cau ein safle yn Wrecsam."

Ychwanegodd y llefarydd ei fod yn "adnabod yr effaith y byddai'n ei gael ar gymuned Wrecsam" ac yn parhau mewn trafodaethau agos gyda chydweithwyr yno.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - ac un sydd o'r ardal - bod y cyhoeddiad yn "ergyd ofnadwy ac mae ein meddyliau ni gyda'r staff sydd wedi'u heffeithio a'u teuluoedd".

'Syndod llwyr'

Mae Marc Jones yn gynghorydd sir yn Wrecsam, a dywedodd bod y newyddion yn "syndod llwyr" i aelodau'r cyngor.

Dywedodd Mr Jones fod y cwmni wedi bod yn trafod ehangu safle Wrecsam llai na thri mis ynghynt.

"Roedd y cyngor wrthi'n trafod sut yr oedd modd darparu mwy o lefydd parcio [ar gyfer yr ehangu], mae'r peth wedi dod yn sioc llwyr, yn amlwg mae newid cyfeiriad sydyn wedi bod," meddai.

"Mae'n fy nharo i fod gorddibyniaeth ar gwmnïau mawr fel yma sy'n gallu symud fel 'ma - heb ystyriaeth o'r gweithwyr a'r economi leol - yn 'wbath sydd ddim yn iach i economi gwlad, heb sôn am sir."

Ychwanegodd: "Mae angen i ni edrych at ein traed ychydig bach yn fwy."