Dau yn cyfaddef defnyddio enwau aelodau o U2 i dwyllo
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cyfaddef i ddefnyddio enwau iawn Bono a The Edge o U2 i dwyllo'r GIG, dau ddiwrnod i mewn i'w achos llys.
Clywodd Llys y Goron Merthyr fod Mark Evill, 47 oed, wedi "symud" dros £700,000 i'w gyfrifon ei hun drwy gwmni roedd wedi ei sefydlu, a bydd y twyll yn costio £1.4m o arian trethdalwyr i'w gywiro.
Fe wnaeth Robert Howells, 65 oed, "gynorthwyo" gyda'r twyll tra'n cyd-weithio gydag Evill yn adran ystadau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys rhwng 2014 a 2015.
Mae cyn-weithiwr arall i'r bwrdd iechyd, Michael Cope, 44 oed, yn gwadu un cyhuddiad o dwyll.
'Anonestrwydd amlwg'
Plediodd Mr Evill yn euog i dri chyhuddiad o drosglwyddo eiddo yn anghyfreithlon ac un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gyda gweithredoedd cafodd eu disgrifio gan y bargyfreithiwr erlyn Christopher Rees fel "anonestrwydd amlwg a herfeiddiol".
Cafodd y llys wybod cyn hynny ei fod wedi sefydlu cwmni, George Morgan Limited, wedi enwi ar ôl ei gi.
Enillodd y cwmni gytundebau adeiladu gwerth £700,000 gan y GIG, cyn talu £22,000 i gyfrif personol Mr Evill.
Er mwyn "cuddio" ei gysylltiad gyda'r cwmni, cafodd y rheithgor wybod bod Mr Evill wedi anfon e-byst a gosod prisiau am y gwaith dan yr enwau Paul Hewson a David Evans - enwau go iawn Bono a The Edge o'r grŵp U2.
Fe wnaeth ymchwiliad gan Dîm Gwrth-dwyll GIG yng Nghymru ddarganfod bod y cwmni hefyd wedi talu am gar gwerth £10,000 i Robert Howells, a char gwerth £23,000 i dad Mr Evill, gwyliau i Dubai, oriawr gwerth £5,000, a thir ac eiddo.
Cafodd y llys hefyd wybod bod Evill wedi ceisio plannu dogfennau mewn bagiau tystiolaeth yr heddlu mewn ymgais i "gryfhau" ei achos.
Mae Michael Cope, a oedd hefyd yn gweithio yn yr adran ystadau yn gwadu twyllo a bydd ei achos llys yntau yn parhau.