Llysgennad yn helpu eraill wedi plentyndod mewn gofal
- Cyhoeddwyd
Mae merch o Ynys Môn, sydd wedi ei dewis yn llysgennad i elusen blant, yn gobeithio y bydd ei phrofiad hi'n gymorth i helpu eraill.
Cafodd Angharad Roberts ei rhoi mewn gofal pan oedd yn ddyflwydd oed, a bu'n byw gyda theuluoedd maeth am weddill ei phlentyndod.
Yn ei harddegau, fe ddioddefodd o iselder, gan unwaith geisio'i lladd ei hun, cyn cael help gan gwnselwyr ac elusen Action for Children.
Yn gynharach eleni, dewisodd yr elusen Angharad fel un o'i phedwar llysgennad.
'Prysur'
"Mae'n mynd yn dda, mae'n reit brysur," meddai Angharad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.
"Mae 'na lot o bethau i fynd iddyn nhw, a dwi'n trafeilio lot efo bod yn llysgennad, ond dwi'n mwynhau."
Yn gynnar yn ei bywyd, cafodd Angharad ei rhoi mewn gofal: "Ro'n i'n ddwy oed, so o'n i'n reit ifanc. Dwi'm yn cofio mynd i ofal, dwi jyst yn gwybod hyn oherwydd gwaith papur a ballu."
Rhwng dyflwydd a naw oed, fe gafodd Angharad sawl teulu maeth, cyn setlo gyda theulu sy'n dal yn rhan o'i bywyd.
Yna yn 16 oed, bu'n rhaid iddi newid teulu eto: "Roedd hwnna'n anoddach oherwydd o'n i'n dallt beth oedd yn digwydd tro yna, cos o'n i'n lot hŷn, ac roedd gen i berthynas hefyd hefo'n rhieni maeth i so oedd o lot anoddach, ond nes i ddelio efo fo'n oce dwi'n meddwl."
Iselder
Yn hwyrach yn ei harddegau, dechreuodd Angharad ddioddef o iselder.
Ar ôl cael cymorth gan elusen Mind, cafodd Angharad gynnig i gymryd rhan mewn cynllun gyda Gweithredu dros Blant.
"Ges i alwad gan fy personal advisor i ofyn a o'n i eisiau bod yn rhan o gynllun newydd oedd yn cychwyn efo Action for Children, sef Skills for Living," meddai.
"Pan nes i gyfarfod nhw, ro'n i'n reit isel, a do'n i'm eisiau byw dim mwy, ro'n i wedi cael digon, felly mi nesh i drio lladd fy hun.
"Mi wnaethon nhw trio helpu fi ddallt bo na bwynt i fi dal fod yma rili a bod yna help yna. Nhw nath helpu i fi ddod allan o'r adeg rili tywyll yna i rwan.
Rhoi yn ôl
Mae Angharad yn dweud ei bod hi'n falch iddi newid ei meddwl a chymryd rhan yng nghynllun Gweithredu Dros Blant, ac i'r cyfle godi iddi ddod yn llysgennad.
"Nes i skydive flwyddyn ddiwethaf iddyn nhw, i hel pres ar gyfer un o'u tai nhw i blant sydd â dim teulu, a dy' nhw erioed di cael gwyliau.
"Ro'n i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw.
"Maen nhw wedi fy helpu i fi, so mae'n neis cael rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw ac i bobl ifanc eraill."