Dagenham & Redbridge 1-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
wrecsam

Dagenham & Redbridge 1-2 Wrecsam

Daeth triphwynt ardderchog i Wrecsam er gwaetha' un camgymeriad allai fod wedi profi'n gostus gan eu golwr.

Wedi hanner cynta' digon agored, roedd rhaid aros am 43 cyn y gôl gynta', ond roedd hi'n werth disgwyl wrth i ergyd gampus Luke Young ganfod cefn y rhwyd.

Ond naeth y fantais ddim para tan yr egwyl hyd oed. Daeth croesiad i mewn i gwrt Wrecsam ac fe adlamodd y bêl yn lletchwith oddi ar y golwg Rob Lainton.

Roedd amheuaeth pwy gafodd y cyffyrddiad olaf, ond fe ddyfarnwyd mai gôl i'w rwyd ei hun gan Brad Walker oedd hi.

Ond roedd Wrecsam yn edrych yn beryglus yn yr ail hanner ac wedi 61 munud fe aethon nhw ar y blaen eto, a hynny gyda chynnig Luke Summerfield o'r smotyn.

Aeth canlyniadau eraill o blaid Wrecsam yn y Cynghrair Cenedlaethol, ac mae tîm Sam Ricketts yn gydradd ar bwyntiau ar frig y tabl ar ddiwedd y dydd.