Cwpan Her: Buddugoliaeth i'r Gweilch
- Cyhoeddwyd
Gweilch 27-0 Pau
Gyda tywydd garw yn Abertawe, roedd y gwynt yn ffactor yn yr hanner cyntaf yn Stadiwm Liberty wrth i'r Gweilch groesawu Pau.
Gyda'r gwynt wrth eu cefnau, fe aeth y Gweilch ar y blaen gyda chais gan James Hook, ond hyd yn oed gyda throsiad a chic gosb roedd ambell un yn credu na fyddai mantais o 10-0 yn ddigon.
Doedd dim angen poeni!
Daeth dau gais arall gan yr asgellwyr George North a Luke Morgan i ymestyn mantais y Gweilch.
Wrth i amser fynd yn brin, roedd rhai o'r dorf yn anhapus wrth i'r Gweilch gicio'r bêl pan fyddai cais arall wedi sicrhau pwynt bonws, ond fe ddaeth hynny hefyd.
Gyda symudiad ola'r gêm fe ddaeth y pedwerydd cais i'r eilydd Harri Morgan i sicrhau'r dechrau gorau i'w dîm yn y Cwpan Her.