Dechrau'r clirio wedi Storm Callum
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi dechrau o glirio difrod i dai a busnesau wedi gwynt a glaw storm Callum ddydd Gwener a ddydd Sadwrn.
Mae lefelau afonydd yn parhau i fod yn uchel, yn enwedig yn ne orllewin Cymru, ac mae sawl rhybudd coch am lifogydd yn parhau mewn grym brynhawn Sul.
Yn y cyfamser mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i ddyn ifanc gael ei ladd mewn tirlithriad yng Nghwmduad yn Sir Gâr.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys: "Er bod y gwaethaf o'r glaw wedi mynd heibio, mae lefelau afonydd mewn rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin yn dal yn eithriadol o uchel ac mae nifer o ffyrdd a phontydd yn parhau i fod ar gau.
"Mae swyddogion yn dal i ymchwilio i dirlithriad ar yr A484 yng Nghwmduad, Sir Gaerfyrddin, lle mae dyn wedi marw.
"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei deulu, a bydd y ffordd ar gau am beth amser eto."
Fe dorrodd afon Tywi drwy amddiffynfeydd llifogydd ger cylchfan Llangynnwr yn hwyr brynhawn Sadwrn, ac roedd pryderon y byddai llanw uchel neithiwr yn achosi i'r dŵr lifo uwchben y welydd.
Nawr mae yn cynghorydd sir yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i edrych o'r newydd ar y wal, am fod dŵr afon Tywi lai na metr o ben yr amddiffynfeydd nos Sadwrn.
Dywedodd: "Mae'n rhaid edrych ar yr amddiffynfeydd yma ar frys, ac ystyried a oes angen eu gwneud nhw'n uwch. Roedd y dŵr yn dod dros y welydd mewn sawl man."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Brynhawn Sul fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys gyngor i'r cyhoedd am fod nifer o ffyrdd a phontydd yn dal ar gau.
"Mae na drafferthion mawr ar ffordd yr A484 rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi o ganlyniad i'r llifogydd mawr ddydd Sadwrn, gyda nifer o bontydd ynghau.
"Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid i geisio dargyfeirio traffig ond mae oedi i deithwyr yn bosib iawn o ganlyniad.
"Mae rhai ffyrdd wedi cael eu cau oherwydd pryderon am ddiogelwch felly peidiwch a'u hanwybyddu a pheidiwch â mentro gyrru i'r dŵr."
"Dŵr wrth ymyl matras y gwely"
Mae perchnogion sawl cartref wedi bod yn clirio llanast drwy gydol dydd Sul ar ôl i ddŵr fynd i mewn i'w hadeilad.
Ym Mhontargothi fe gododd lefel afon Cothi uwchlaw'r bont, gan ruthro i mewn i dai.
Dywedodd un teulu wrth ohebydd BBC Cymru fod eu Mam, 93 oed, wedi deffro fore Sadwrn i ddarganfod bod ei gwely wedi ei amgylchynu gan ddŵr, a bod y lefel wedi cyrraedd gwaelod ei matras.
Mae 'r llifogydd wedi effeithio ar sawl ffordd yng Nghymru.
Ar agor gyda gofal: (14:00 dydd Sul)
A485 Betws Bledrws
A482 Felinfach
Pont Llanbedr Pont Steffan ger Co-op
Pont Llanybydder
Pont Llandysul
A44 Gelli Angharad i Llanbadarn
Ar gau:
A487 Pont Ddyfi ym Machynlleth
A484 rhwng Cwmduad a Rhos
A40 rhwng Abergwili a Llandeilo (Y ffordd rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri ar agor, ond gyda gofal)
A4042 Felin Fach i Gylchfan Hardwick y Fenni
B4459 Capel Dewi (oherwydd tirlithriad)
B4343 Cellan
B4437 Talsarn
B4476 Abercerdin
Pont Castellnewydd Emlyn
Pont Cenarth
Pont Llechryd
Pont Croesor rhwng Llanfrothen a Phrenteg yng Ngwynedd
Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma: