Cwpan Ewrop: Lyon 21-30 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Anscombe a Macauley CookFfynhonnell y llun, Asiantaeth Lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Anscombe a Macauley Cook yn dathlu ar ôl curo Lyon

Mae Gleision Caerdydd wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl bod ar ei hôl hi yn Lyon o 10-0 ar un adeg.

Roedd yna dri chais i'r ymwelwyr wrth iddyn nhw chwarae eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth hon ers 2014.

Er gwaethaf cais cynnar gan Loan Goujon a throsiad a chic gosb gan Lionel Beauxis, fe gymerodd yr ymwelwyr yr awenau gweddill y gêm.

Roedd yna gais yr un i Olly Robinson a Tomos Williams, gyda Gareth Anscombe yn trosi pob un, cyn mynd yn ei flaen i gael cael ei hun wedi rhediad 50m hyd y cae.

Fe darodd Pierre-Louis Barassi yn ôl i sicrhau 5 pwynt arall i'r ymwelwyr, cyn i Anscombe unwaith eto sicrhau cic gosb lwyddiannus cyn y chwiban olaf.