Dynes gafodd ei harestio wedi'i rhyddhau yn ddi-gyhuddiad

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin marwolaeth dyn 52 oed o Aberffraw ger Llangefni gafodd ei ddarganfod yn farw mewn toiled tafarn fel un amheus.

Yn dilyn Post Mortem dywedodd yr heddlu er bod y farwolaeth yn anseboniadwy, bu farw Mr Philip Hughes o achosion naturiol.

Mae dynes 32 oed gafodd ei harestio yn gynharach ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi'i rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Daeth swyddogion o hyd i gorff Mr Hughes mewn toiled yn nhafarn y Market Public House yn Llangefni ychydig wedi hanner nos ddydd Mawrth.

Mae teulu Mr Hughes wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.