Cyhoeddi carfan rygbi Cymru ar gyfer cyfres yr hydref
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi cynnwys dau chwaraewr sydd heb ennill cap yn y garfan ar gyfer cyfres yr hydref.
Bydd Cymru yn wynebu'r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica ym mis Tachwedd.
Asgellwr Caerlŷr, Jonah Holmes, ac asgellwr y Gweilch, Luke Morgan, yw'r unig rai sydd heb ennill cap o'r blaen, wrth i Gatland enwi carfan llawn profiad.
Mae Jonathan Davies, Tyler Morgan a'r prop Leon Brown ymysg y rhai sydd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl anafiadau.
'Cyfle euraidd'
Ar ôl cael seibiant yn ystod taith yr haf mae'r capten Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, George North a Liam Williams hefyd wedi eu henwi yn y 37.
Er hynny mi fydd rhaid i Gymru ymdopi heb rhai enwau cyfarwydd gan gynnwys Taulupe Faletau, Scott Williams, Hallam Amos ac Aaron Shingler oherwydd anafiadau.
Dywedodd Gatland fod gemau'r Hydref yn "gyfle euraidd" i'r chwaraewyr wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2019.
"Mae'r chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru mor dda dros yr haf yn haeddu cyfle arall, ac rydyn ni'n hapus iawn gyda dyfnder y garfan" meddai.
Bydd gêm gyntaf y gyfres yn erbyn yr Alban ar 3 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Y garfan yn llawn:
Blaenwyr
Rob Evans, Wyn Jones, Nicky Smith, Elliot Dee, Ryan Elias, Ken Owens, Leon Brown, Tomas Francis, Samson Lee,
Dillon Lewis, Jake Ball, Adam Beard, Bradley Davies, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C),
Ellis Jenkins, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Justin Tipuric, Aaron Wainwright.
Olwyr
Aled Davies, Gareth Davies, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Rhys Patchell,
Jonathan Davies, Tyler Morgan, Hadleigh Parkes, Owen Watkin,
Josh Adams, Steffan Evans, Leigh Halfpenny, Jonah Holmes, Luke Morgan, George North, Liam Williams.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2018