John Walter Jones yn cofio Deddf yr Iaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Ar 21 Hydref 1993, cafodd Deddf yr Iaith Gymraeg ei chymeradwyo'n swyddogol gan y Frenhines.

Dyma ddeddf a oedd yn rhoi mwy o hawliau i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a sicrhau bod yr iaith yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Gŵr a oedd yno oedd y darlledwr John Walter Jones, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac un a oedd yn flaenllaw yn y trafodaethau. Siaradodd â Cymru Fyw am ei atgofion:

Hydref. Diwedd Hydref yn benodol. Be' ddaw i'm cof yn rheolaidd yr adeg yma o'r flwyddyn? 1859 - trychineb y Royal Charter. 24ain o Hydref - Ffair Borth. Achub criw yr Hindley ar y 27ain o Hydref 1959 - a'r fedal aur gyntaf i Dic Evans.

Ac mae rhaid i mi gyfaddef, mae'r digwyddiadau yma ar ddiwedd Hydref yn llawer mwy byw yn fy nghof na'r Cydsyniad Brenhinol a roddwyd i Deddf yr Iaith Gymraeg ar Hydref 21ain 1993. Ia, chwarter canrif yn ôl.

Un diwrnod mewn hanes - ond fe roddwyd i'r iaith y diwrnod hwnnw gyfle newydd a sail ddeddfwriaethol i weithredu o blaid y Gymraeg.

Nid pawb fyddai'n cytuno â'r gosodiad yna, ac mewn nodyn personol i mi, fis Medi '93, dywedodd y diweddar Arglwydd Prys Davies, "Mae gennych flwyddyn drom o'ch blaen, ac rwy'n dymuno'n dda iawn i chi yn y gwaith pwysig, er y buasai'n dda gennyf pe medrir fod wedi rhoi mwy o bwerau ac annibyniaeth i chi."

'Deddfu yn ganolog'

Fedrai neb anghytuno. Ond ym mis Tachwedd 1989, breuddwyd gwrach o'r bron oedd unrhyw ddeddfwriaeth. 'Siom' oedd yr oedi o du'r Llywodraeth ar gwestiwn deddfwriaeth, meddai John Elfed Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith.

"Be' yn union 'da chi yn ddisgwyl o du'r Bwrdd am y tair blynedd nesaf? Sut mae'r Gweinidog yn gweld y dyfodol?" Dyna fwrdwn sgwrs eitha' tyngedfennol rhwng y diweddar Arglwydd Roberts o Gonwy a'r Bwrdd. Ond, pa atebion bynnag a gafwyd, roedd holl aelodau'r Bwrdd yn unfryd - roedd deddfu yn ganolog.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Wyn Roberts o Gonwy yn trafod drafft o'r Mesur (fel roedd yn cael ei alw yn wreiddiol) a roddwyd gerbron y Llywodraeth yn Rhagfyr 1992

Yn Llanrwst ar y 15fed o Ebrill 1980, dywedodd Nicholas Edwards, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, "Tra bydd pobl am siarad yr iaith, bydd Llywodraethau'n ymateb gyda'r modd i'w chefnogi a rhoi nerth iddi".

Do, fe gafwyd cynnydd yn y gwariant ar y Gymraeg, ond pres heb bolisi oedd hyn - 'doedd fawr neb yn pwyso am brif-ffrydio'r iaith. Anelu at wneud hynny drwy ddeddfwriaeth oedd nod amgen Bwrdd yr Iaith Gymraeg pan ei sefydlwyd.

Rhaid cofio nad oedd senedd yng Nghaerdydd - Margaret Hilda Thatcher oedd y Prif Weinidog pan sefydlwyd y Bwrdd - a hyd y gwn i, doedd Mrs T ddim hyd yn oed yn treulio ambell i benwythnos yn Nolgellau.

Serch y cyfarfod efo Wyn Roberts yn Nhachwedd '89 - bu'r cyd-weithio rhwng Wyn â'r Bwrdd yn adeiladol - a mawr yw fy nyled i fab gweinidog Methodist o Sir Fôn am ei gefnogaeth. Oedd, roedd 'na sawl ffordd o gael y maen i'r wal.

'Hybu a datblygu'r Gymraeg'

Pan sefydlwyd corff ymgynghorol anstadudol ym 1988, rhoddwyd iddo'r cylch gorchwyl o 'Hybu a datblygu'r iaith Gymraeg a chynghori ar faterion sy'n gofyn am weithredu deddfwriaethol'.

Gwleidydd i'w sodlau oedd Peter Walker, yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd! Teg dweud bod ei safbwynt o ar 'gynghori ar faterion sy'n gofyn am weithredu deddfwriaethol' yn dra gwahanol i safbwynt John Elfed a'i gyd-aelodau.

Ac i gadw'r balans gwleidyddol, cofier mai polisi yr wrthblaid Lafur ar y pryd, ac wedyn mewn llywodraeth, oedd dileu cyrff lled-annibynnol megis y Awdurdod Datblygu Cymru (W.D.A.) a thynnu grymoedd i'r canol h.y. i'r Llywodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei sefydlu fel bwrdd statudol yn 1993 - cyn hynny, roedd bwrdd anstatudol wedi bod mewn lle ers 1988

Nid yn unig roedd angen darbwyllo Llywodraeth y dydd bod angen deddfu, roedd angen darbwyllo'r wrthblaid bod angen Bwrdd Statudol i warchod yr iaith Gymraeg ac yn absenoldeb corff o'r fath, rhaid oedd 'cywiro'r diffyg hwn' meddai John Elfed Jones wrth gynrychiolwyr y Blaid Lafur yn mis Mehefin 1990.

Nod y Bwrdd oedd cael y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o weithrediad pob corff cyhoeddus, ble bynnag oedd ei bencadlys. Yn syml, cael cyfundrefnau i sylweddoli nad oedd lle bellach "i ddianc rhag hon" ac o wneud hyn yn codi proffil yr iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meri Huws wedi bod yn rôl Comisiynydd y Gymraeg ers 2012

Wel, a wireddwyd y gobeithion? Pa ddeddfwriaeth sy'n llwyr gyflawni y dyhead a nodir ar flaen dudalen Deddf? Fe gafwyd Deddf, bu sawl un yn dwys ystyried ei oblygiadau i gyrff na feddyliodd am yr iaith Gymraeg erioed.

Darbwyllwyd sawl un fod cynllunio dyfodol i'r iaith yn broses lled-hirfaith - nid tŷ un-nos, na tân siafins ydy'r dyfodol lle mae'r iaith yn bod. Y nod fel yr arferai'r Bwrdd bwysleisio yn ystod taith y Mesur oedd 'dwyieithrwydd datblygol, sefydlog drwy gydsynio'.

Tybed odd fy 'nghyd-aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn sylweddoli hyn pan afaelodd hi, 'Elizabeth o Windsor' yn yr ysgrifbin ar 21ain o Hydref 1993? Go brin! Ond fe osodwyd y seiliau. Ac 'mae'r achos yn parhau' ys dywed Radio Cymru.

Mae troi'r clocia' yn beth pwysig iawn ar ddiwedd Hydref, a ni ydi'r unig rai a fedr benderfynu faint o'r gloch ydy hi ar yr iaith. Nôl, 'ta mlaen ma' petha'n mynd mewn gwirionedd?

Hefyd o ddiddordeb...