Gwrthdrawiad yn cau ffordd yr A5 yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i wrthdrawiad ger Rhydlanfair
Mae ffordd yr A5 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad ger Rhydlanfair, Conwy.
Mae Heddlu'r Gogledd yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal rhwng Betws-y-Coed a Phentrefoelas.
Mae Ambiwlans Awyr wedi'i alw i ymateb i'r digwyddiad.
Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn â faint o bobl sydd wedi'u hanafu yn y gwrthdrawiad.