Yw'r BBC yng Nghymru'n rhy ddylanwadol?

  • Cyhoeddwyd
Dr Jamie Medhurst

Yn ôl yr hanesydd, y Dr John Davies, arteffact a grëwyd gan ddarlledu yw Cymru.

Gosodiad dadleuol ond un sydd ag elfen o wirionedd, yn arbennig wrth gyplysu'r datganiad gydag un o ddadleuon eraill John Davies, sef mai o holl wledydd Ewrop, Cymru oedd y wlad lle oedd darlledu radio a theledu yn chwarae rhan ganolog wrth iddi 'siarad' i'w hunan a phortreadu'i hunan i weddill y byd.

O'r cychwyn, roedd pryderon ynghylch effaith y cyfrwng newydd ar iaith a diwylliant cynhenid Cymru.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Fwrdd Addysg Cymru ym 1927, ymosodwyd ar y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (fel oedd hi erbyn hynny):

"Wireless is achieving the complete Anglicisation of the intellectual life of the nation. We regard the present policy of the British Broadcasting Corporation as one of the most serious menaces to the life of the Welsh language..."

Ymhen y flwyddyn, fe aeth dirprwyaeth o Brifysgol Cymru i siarad â phenaethiaid y BBC i ddwyn pwysau arnyn nhw i gydnabod bodolaeth Cymru fel cenedl.

A dyna osod y tôn, mewn gwirionedd, ar gyfer y berthynas rhwng darlledwyr Prydain a Chymru dros y degawdau nesaf, sefyllfa a grisialwyd gan Aneirin Talfan Davies, cyn-bennaeth rhaglenni'r BBC yng Nghymru, mewn darlith radio ym 1972:

"Hanes brwydro dros hawliau'r genedl fu hanes darlledu yng Nghymru erioed."

Ond beth yw perthynas y BBC a Chymru erbyn hyn?

Hwyrach bod angen safle we ar wahân i drafod hwn, ond dyma rai pwyntiau trafod a chwestiynau sy'n codi.

A yw hi'n iach, mewn cymdeithas ddemocrataidd, mai'r BBC yw'r prif ddarparwr newyddion yn yr iaith Gymraeg a hynny ar y teledu, y radio a'r we?

Yn ddiweddar mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phlwraliaeth a'r angen am leisiau amgen - ond o ble daw'r rheiny ac o ble daw'r arian?

Yn sicr dyw model masnachol traddodiadol ddim yn ddigonol i ddiwallu'r anghenion - mae hanes yn dangos hynny.

Mae'r BBC yn parhau i fod yn 'rym' diwylliannol cryf yn y Gymru gyfoes - mae'n un o'n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf - ond ydy'r ffaith mai corfforaeth ag iddi gylch gorwyl 'Prydeinig' yn golygu nad yw'n talu sylw digonol i Gymru?

Un 'man gwan' hwyrach, yw'r ddarpariaeth ar gyfer y Cymry di-Gymraeg, y gynulleidfa nad ydynt yn medru'r Gymraeg.

Mae'r gorfforaeth yn mynd ati i geisio ymdrin â'r mater, ond beth wedyn am gynrychiolaeth Cymru yng ngweddill gwledydd Prydain?

Mae 'na farn gref nad oes digon o bresenoldeb gweledol Cymreig ar rwydwaith Prydeinig y BBC.

Ond mae pethau'n newid gyda mwy o ddramâu o Gymru yn cael eu rhwydweithio. Dyfal donc…

Mae BBC Cymru'n trio'n galed, ond pe bai adroddiad ysgol ar y BBC yn ganolog, hwyrach mai 'gall wneud yn well' fyddai'r dyfarniad.

Un enghraifft - pam fod rhaglenni newyddion ddaw o Lundain neu Salford o hyd yn cyfeirio at Gymru (a'r Alban o ran hynny) fel pe bai'n sir neu ranbarth yn Lloegr yn lle fel cenedl neu wlad?

Mae'r esiamplau yn rhy hir i'w rhestru yma, ond os oes un maes lle gall y BBC wella, dyna hi.

Fel dywedodd un Cymro amlwg wrth Bwyllgor Pilkington ym 1961: "You say a minority, sir; we say a nation."

Mae Dr Jamie Medhurst yn bennaeth adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu'n rhan o brosiect '100 Voices that made the BBC'. I ddarllen mwy, cliciwch y ddolen yma.