Mynediad llawn i bobl anabl mewn traean o orsafoedd yn unig
- Cyhoeddwyd
Dim ond traean o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru sydd â mynediad anabl llawn, ac mae angen gwelliannau yn ôl dwy elusen.
Daw'r alwad wrth i ffigyrau ddangos nad oes modd i ddefnyddwyr cadair olwyn gyrraedd y platfform mewn bron i 25% o orsafoedd Cymru.
Mae Anabledd Cymru a Scope yn galw ar i Drafnidiaeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod pobl anabl yn gallu teithio'n annibynnol, ac yn pwyso am newid ar frys.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd "99% o deithiau ar lwybrau allweddol y cymoedd yn addas i bawb mewn cadair olwyn o fewn pum mlynedd" yn dilyn buddsoddiad o £15m.
'Anodd gw'bod os allai ddod oddi ar y trên'
Mae Cat Dafydd o Landysul yn defnyddio cadair olwyn ac yn disgrifio'i hun fel menyw annibynnol.
Dywedodd wrth y Post Cyntaf bod prinder gorsafoedd trên sydd â mynediad heb risiau yn golygu bod teithio ar y system rheilffyrdd yng Nghymru yn llawn heriau.
"I fynd ar drên rhywle ma'n rhaid i chi bwco assistance gynta', cael gw'bod sut ma' mynd o'r maes parcio i'r platfform, os oes angen ramps - fel bod staff yr orsaf yn gw'bod beth i'w wneud.
"Ma'n anodd gw'bod yn sicr os allai ddod oddi ar y trên rhywle.
"Ambell waith ma'n rhaid i fi fynd heibio'r orsaf ar y trên, a dal tacsi yn yr orsaf nesa' i ddod 'nôl. Mae e jyst yn anodd teithio ar drenau."
Ychwanegodd: "Ma' pedwar o blant 'da ni, a ma' nhw'n dwli mynd ar y trên, bydden i'n reli joio mynd i lefydd eraill ar y trên, ond mae e jyst mor anodd i deithio a threfnu lle ni'n mynd achos 'dwi yn y gadair."
Pan gymrodd Trafnidiaeth Cymru reolaeth o ryddfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau dros y penwythnos, dim ond 84 (34%) o orsafoedd y rhwydwaith oedd â mynediad llawn heb risiau.
Roedd 105 (42.5%) â mynediad rhannol, ond doedd dim mynediad i'r platfform o gwbl i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn 58 (23.5%) o orsafoedd.
Problem fawr
Mae Prif Weithredwr Anabledd Cymru wedi dweud ei fod yn "broblem fawr sydd angen ei datrys yng Nghymru".
Dywedodd Rhian Davies mai'r gobaith yw bod y rhyddfraint newydd yn "gyfle mewn cenhedlaeth i ddatrys hyn nawr ac i'r dyfodol".
"Fel Anabledd Cymru, fe fydden ni ddim am weld dim llai 'na 100% [mynediad anabl llawn].
"Dyw pobl anabl ddim yn ddinasyddion eilradd. Mae gyda ni'r hawl i fynd i unrhyw le ry'n ni eisiau, ac i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol lle bo angen, i gael gwybodaeth gywir."
Yr un yw'r neges gan Scope, sy'n dweud bod pobl anabl yn teimlo fel eu bod yn cael eu hanghofio dro ar ôl tro, a bod angen newid hynny ar frys.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Masnach a Chwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: "Rydym wedi ymrwymo i adeiladu rhwydwaith reilffordd sydd ar gael i bawb yng Nghymru a'r gororau.
"Fel rhan o'r ymrwymiad, bydd Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £15m er mwyn sicrhau bod 99% o deithiau ar lwybrau allweddol y cymoedd yn addas i bawb mewn cadair olwyn o fewn pum mlynedd.
"Bydd mynediad i bobl mewn cadair olwyn hefyd yn cael ei gynnwys mewn 23 gorsaf ychwanegol gyda gwariant o £3.6m i wella mynediad i orsafoedd.
"Er gwaethaf y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi'i gwblhau i well mynediad i orsafoedd, mae dal llawer o waith i'w wneud i drawsnewid gorsafoedd, rhai ohonynt gafod eu hadeiladu yn ystod Oes Fictoria."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018