Crwner yn beirniadu safon gofal dyn ag anawsterau dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi beirniadu safon y gofal a gafodd dyn 67 oed ag anabledd dysgu gydol oes mewn cartref gofal yng Nghaerfyrddin.
Daw hynny wedi i reithgor mewn cwest benderfynu nad oedd yn bosib dweud sut y gwnaeth Heddwyn Hughes dorri ei wddf yn y cartref, ond bod nifer o fethiannau ynghlwm â'i ofal.
Cafodd staff meddygol hefyd eu beirniadu am beidio ag ymateb gyda digon o frys i achos Mr Hughes.
Fe wnaeth y crwner yn Aberdaugleddau ddydd Gwener gofnodi casgliad naratif i farwolaeth Mr Hughes, oedd yn byw yng nghartref gofal Bro Myrddin.
Methodd y rheithgor â phenderfynu sut y gwnaeth Mr Hughes dorri ei wddf, ond roeddynt o'r farn iddo beidio â derbyn y gofal priodol.
Fe wnaeth y claf lithro ym mis Mai 2015, a bu farw yn Ysbyty Glangwili chwe mis yn ddiweddarach.
'Dim digon o frys'
Dywedodd y crwner nad oedd staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymateb yn briodol pan ddaeth Mr Hughes i'w gofal ar 6 Mai 2015, ac nad oeddent wedi ymateb gyda digon o frys.
Ychwanegodd nad oedd safon cyfathrebu rhwng y meddyg a staff y cartref gofal yn dderbyniol.
Mewn datganiad wedi'r cwest, dywedodd chwaer Mr Hughes, Moelwen Gwyndaf: "Yng nghanol hyn oll mae fy mrawd Heddwyn, a garwyd yn fawr, ac a oedd angen cymaint o gefnogaeth.
"Ei etifeddiaeth yw y bydd yna weithdrefnau ar waith er mwyn sicrhau diogelwch a gofal i oedolion bregus eraill sydd yng ngofal y wladwriaeth, ac sydd yn anabl i ddweud beth sydd wedi digwydd iddynt."
Clywodd y cwest fod Mr Hughes wedi llithro i'r llawr wrth i weithwyr gofal Bro Myrddin geisio'i godi i'w draed o'r gwely.
Fe fethodd y staff â chynnal pwysau'r claf 16 stôn.
Nid oedd hi'n glir ar y pryd fod Mr Hughes wedi torri ei wddf.
Diffyg gwybodaeth
Ddydd Iau wrth roi tystiolaeth dywedodd Dr Idris Gravelle iddo gael ei alw i'r cartref i archwilio Mr Hughes.
Dywedodd nad oedd wedi derbyn "unrhyw wybodaeth" am gwymp y claf, a'i bod hi'n anodd dweud os oedd y claf yn ymwybodol gan nad oedd yn rhoi unrhyw ymatebion geiriol, ac nid oedd yn symud ei gorff heblaw am ei droed dde.
"Roeddwn i'n meddwl ar y pryd y gallai fod wedi dioddef o strôc ac fe wnes i alw am ambiwlans i'w gludo i'r ysbyty," meddai.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei fod wedi disgyn... doeddwn i ddim wedi derbyn unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny. Petawn i'n gwybod am hynny yna byddwn i wedi ei archwilio am drawma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2018