Arwydd Pen-y-fan yn gwerthu am dros £2,000 mewn ocsiwn

  • Cyhoeddwyd
Pen y FanFfynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Yr hen arwydd, a'r un newydd

Mae arwydd eiconig copa Pen-y-Fan ym Mannau Brycheiniog wedi gwerthu am £2,100 mewn arwerthiant yng Nghaerdydd.

Roedd yr hen arwydd ar gopa uchaf de Cymru yn dangos ôl y tywydd arno, ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gosod un newydd yn ei le.

Roedd darogan yn wreiddiol y byddai'n codi oddeutu £600 tuag at apêl yr Ymddiriedolaeth er mwyn trwsio llwybrau ar y mynydd.

Dywed yr arwerthwyr bod diddordeb mawr yn yr arwydd o bob rhan o'r wlad, a bod y prynwr yn dymuno aros yn ddienw.

"Roedd yn ganlyniad da i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol," dywedodd Ben Rogers-Jones o gwmni Rogers-Jones. "Rwy'n meddwl y bydden nhw'n cael eu plesio.

"Gawson ni fwy o gynigion amdano nag am unrhyw beth arall - cynigion o bob rhan o'r wlad, roedd llawer o gystadleuaeth amdano."

Ychwanegodd fod y prynwr "yn edrych fel person sy'n hoffi'r awyr agored" a bod yr arwydd "yn golygu llawer iddo".

'Lle arbennig yng nghalonnau pobl"

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth fod yr hen arwydd - yn siap llythyren Omega - wedi bod yn dyst i nifer o orchestion personol, ac ambell gynnig priodas.

Dywedodd llefarydd: "Mae gan Fannau Brycheiniog, ac yn enwedig Pen-y-Fan, le arbennig yng nghalonnau pobl."

Ffynhonnell y llun, Rogers-Jones

Yr amcangyfrif yw bod mwy na 350,000 o bobl yn dringo'r copa 886m bob blwyddyn - dwbl y nifer bum mlynedd yn ôl.

Pan ddechreuodd y gwaith o newid yr arwydd, roedd Rob Reith yn disgwyl taw gwaith pum munud fyddai.

Ond fe gymrodd hi dair awr gan fod rhes o bobl am dynnu hun-luniau eisoes wedi ffurfio.

Dywedodd Mr Rogers-Jones fod y cyfle i brynu'r math yma o arwydd yn brin.

"Dyw hyn erioed wedi digwydd o'r blaen i ni," meddai. "Dim ond 20 oed yw'r arwydd - ddim yn 'antique' ond mae'n eicon.

"Mae pawb sydd wedi cyrraedd y copa wedi tynnu hun-lun yna, felly mae'r diddordeb yn enfawr.

"Efallai y byddai'n hwyl i brynwr ei fframio gyda'i hun-lun wrth ochr yr arwydd a'i roi ar y wal."

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y bydd yr holl arian o'r gwerthiant yn mynd i Apêl Bannau Brycheiniog gan gynnig "arian sydd dirfawr ei angen er mwyn caniatáu i ni barhau'r gwaith o drwsio llwybrau'r mynydd".