Dyn wedi marw ar ôl i gar fynd ar dân
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi marw ar ôl i gar fynd ar dân yn Sir y Fflint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Wepre Lane yng Nghei Connah am 08:31 fore Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod swyddogion wedi dod o hyd i'r dyn 46 oed yn y car gyda llosgiadau difrifol.
Cafodd y dyn, a oedd yn dod o ardal Mancot yn Sir y Fflint, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw o'i anafiadau.
Dydy'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus.