Cyngor Powys yn gwahardd anifeiliaid syrcas gwyllt

  • Cyhoeddwyd
EliffantodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd syrcasau anifeiliaid gwyllt ddim yn cael eu cynnal na'u hyrwyddo ar dir y cyngor

Mae Cyngor Powys wedi gwahardd syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt o unrhyw dir ym mherchnogaeth yr awdurdod.

Dyma'r cyngor cyntaf i wneud hynny ers dechrau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gyflwyno gwaharddiad ymhob rhan o Gymru ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Hefyd fe fydd ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau ieuenctid yn cael eu hatal rhag hysbysebu'r syrcasau.

Dwy syrcas yn unig sydd â thrwyddedau anifeiliaid gwyllt yn y DU ac mae eu hanifeiliaid nhw yn cynnwys ceirw, sebras a chamelod.

Mae syrcasau anifeiliaid gwyllt wedi eu gwahardd eisoes yn Yr Alban a 18 o wledydd yr UE, ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod dim modd atal syrcasau teithiol o dramor rhag ymweld â Chymru oni bai bod yna waharddiad tebyg yng Nghymu.

Mae'r elusen hawliau anifeiliaid, PETA UK yn dweud bod hi'n hen bryd i wahardd y syrcasau am eu bod yn "ecsploetio anifeiliaid mewn ffordd hynafol a chreulon".

Ond mae llawer o'r gwrthwynebiadau yn ddi-sail yn ôl Thomas Chipperfield - yr unig hyfforddwr llewod bellach yn y DU, sy'n dweud bod anifeiliaid yn cael eu trin yn dda.

Dim ond un cynghorydd wnaeth wrthod cynnig y Cynghorydd Amanda Jenner, sy'n dweud bod y penderfyniad "yn rhoi neges glir i Lywodraeth Cymru bod angen iddyn nhw ymroddi" i waharddiad llwyr.

"Mae'n ategu'r farn gyhoeddus bod lles anifeiliaid yn bwysicach nag adloniant," dywedodd.

Mae AC Trefaldwyn, Russell George wedi croesawu penderfyniad y cyngor, ond yn rhybuddio bod angen gwaharddiad llwyr i atal cynnal syrcasau anifeiliaid gwyllt ar dir preifat.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn para tan 26 Tachwedd.