Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 4-2 Fulham
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd yn dathlu eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr - ar y nawfed cynnig - ar ôl curo Fulham o 4-2.
Yr ymwelwyr wnaeth sgorio gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda gôl gampus André Schurrle wedi 11 munud.
Daeth John Murphy â Chaerdydd yn gyfartal wedi 15 munud cyn i Bobby Decordova-Reid eu rhoi ar y blaen am y tro cyntaf bum munud yn ddiweddarach.
Ond fe wnaeth Ryan Sessegnon unioni'r sgôr wedi 34 munud ac roedd hi'n dal yn 2-2 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Er gwaethaf chwarae hyderus gan Fulham wedi'r egwyl, llwyddodd Callum Patterson i adfer mantais yr Adar Gleision wedi 65 munud.
Tarodd y bêl yn isel i gornel y rhwyd wedi i'r golwr Marcus Bettinelli fethu â delio â chroesiad Bruno Ecuele Manga.
Yr eilydd Kadeem Harris wnaeth sgorio pedwaredd gôl Caerdydd o bas Victor Camarasa i sichrau triphwynt allweddol bwysig.
Mae'r canlyniad yn codi'r Adar Gleision o waelod y tabl ac o'r tri safle isaf, ac yn hwb cyn herio Lerpwl oddi cartref ddydd Sadwrn nesaf.