Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gleision 12-29 Glasgow

  • Cyhoeddwyd
Canolwr y Gleision, Rey Lee-Lo yn cael ei daclo gan DTH van der Merwe a Huw Jones o GlasgowFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Canolwr y Gleision, Rey Lee-Lo yn cael ei daclo gan DTH van der Merwe a Huw Jones o Glasgow

Mae Gleision Caerdydd yn wynebu talcen caled yn Adran 3 Cwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl colli i Glasgow Warriors ym Mharc yr Arfau.

Roedd y gwrthwynebwyr 12 pwynt ar y blaen o fewn cwta chwe munud wedi cais a throsiad Adam Hastings ac ail gais gan DTH van der Merwe.

Er gwaethaf chwarae addawaol a chyfnodau da o gadw'r bêl gan chwaraewyr y Gleision yng ngweddill yr hanner cyntaf, fe lwyddodd Glasgow i ymestyn y fantais gyda chic gosb Hastings i wneud y sgôr yn 0-15.

A'r ymwelwyr wnaeth sgorio pwyntiau cyntaf yr ail hanner hefyd wedi i van der Merwe greu cyfle arweiniodd at gais Ali Price ac ail drosiad Hastings.

Dri munud wedi hynny roedd yna lygedyn o obaith bod y tîm cartef am daro'n ôl gyda chais gan Adam Summerhill wedi symudiadau gwych gan Gareth Anscombe a Jarrod Evans.

Aflwyddiannus oedd trosiad Anscombe, er yn eithriadol o agos.

Ergyd arall oedd colli'r capten, Ellis Jenkins a fu'n rhaid gadael y maes wedi anaf i'w ysgwydd.

Roedd y gêm i bob pwrpas ar ben wedi 67 munud pan sgoriodd Jonny Gray bedwerydd cais Glasgow.

Gyda throsiad Hastings - a gafodd ei enwi yn seren y gêm - roedd y sgôr bellach yn 5-29 a Glasgow wedi sicrhau pum pwynt bonws.

Ond llwyddodd y Gleision i leihau'r bwlch gydag ail gais Summerhill a throsiad Anscombe ym munudau olaf y gêm.

Mae'r canlyniad yn siom wedi dechrau delfrydol y Gleision yn y gystadleuaeth gyda'r fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Lyon, ac mae ganddyn nhw fynydd i'w ddringo bellach yn y ddwy gêm ym mis Rhagfyr yn erbyn y Saraceniaid, sydd ar frig y grŵp.