Golff: Becky Morgan yn ennill ei chystadleuaeth gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Becky MorganFfynhonnell y llun, Icon Sports Wire
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Becky Morgan droi'n broffesiynol yn 2000

Mae'r Gymraes Becky Morgan wedi ennill cystadleuaeth golff proffesiynol am y tro cyntaf - 18 mlynedd ers iddi droi'n broffesiynol.

Fe enillodd Morgan, sy'n 44 oed ac o'r Fenni, yn yr Hero Women's Indian Open - cystadleuaeth rhif 119 iddi ar Daith Ewropeaidd y Merched.

"Mae wedi cymryd 18 mlynedd imi ac mae'n gymysgedd o gynnwrf a rhyddhad mod i wedi ei wneud e o'r diwedd," meddai.