Ymddiheuro am liw crysau yng ngêm y Gleision a Glasgow

  • Cyhoeddwyd
gleision v glasgowFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth sawl un gwyno fod crysau'r ddau dîm yn rhy debyg

Mae trefnwyr Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dweud y byddan nhw'n ymddiheuro i'r Gleision a Glasgow wedi i'r ddau dîm orfod gwisgo cit o'r un lliwiau yn eu gornest ddydd Sul.

Llwyddodd yr Albanwyr i drechu'r rhanbarth o Gaerdydd 29-12 ar Barc yr Arfau, a hynny ar ôl mynd mewn ar yr egwyl bymtheg pwynt ar y blaen.

Ond roedd tipyn o feirniadaeth yn ystod ac ar ôl y gêm am y crysau gafodd eu gwisgo, gyda'r ddau dîm yn chwarae mewn cit oedd yn rhannol neu'n bennaf yn las golau.

Yn dilyn yr ornest dywedodd maswr y Gleision, Gareth Anscombe fod y penderfyniad i ganiatáu i Glasgow chwarae yn y cit hwnnw'n "warthus".

'Jôc'

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd corff rheoli European Professional Cup Rugby (EPCR) fod ganddyn nhw reolau ynghylch dewis lliw crysau ar gyfer gemau, ond na chafodd y canllawiau "eu dilyn yn iawn" yn yr achos hwn.

"Bydd EPCR yn cysylltu â Gleision Caerdydd a Glasgow yn y man i ymddiheuro," meddai'r corff.

Glas golau yw lliw crysau cartref y Gleision, ac er mai du yw lliw arferol Glasgow mae ganddyn nhw hefyd ail git glas eleni.

Byddai'r ddau dîm wedi gorfod cyflwyno eu crysau i EPCR cyn dechrau'r gystadleuaeth, a nhw wedyn fyddai wedi penderfynu pa liwiau oedd yn cael eu gwisgo ddydd Sul.

"Fe edrychon nhw ar y lliwiau a dweud nad oedden nhw'n rhy debyg," meddai hyfforddwr Glasgow, Dave Rennie.

"Dwi ddim yn siŵr am hynny, bydden ni wedi bod yn ddigon hapus dod â'n cit du ni efo ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Anscombe oedd un o'r chwaraewyr mwyaf beirniadol

Mae'n draddodiad hirsefydlog o fewn rygbi mai'r tîm cartref sy'n gorfod newid i'w cit sbâr os yw'r ddau liw yn rhy debyg.

Ond dywedodd Anscombe nad oedd yn teimlo bod hynny'n "deg".

"Dwi erioed wedi dod ar draws hynny mewn wyth mlynedd o chwarae rygbi," meddai Anscombe, 27.

"Pwy sy'n gwneud y penderfyniadau yma? Mae'n jôc."