Gwahardd cŵn Caerdydd o gaeau chwarae yn 'annhebygol'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gynllun dadleuol i wahardd cŵn o fannau chwarae caeëdig a meysydd chwaraeon wedi'u marcio yng Nghaerdydd gael ei ollwng.
Byddai'r rheolau newydd wedi golygu nad oedd gan berchnogion hawl i fynd â'u cŵn ar gaeau chwaraeon yn y brifddinas sy'n berchen i'r cyngor.
Ond bu gwrthwynebiad chwyrn i'r cynigion, gyda dros 16,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun, a gorymdaith drwy'r ddinas ddydd Sul.
Mae aelod o gabinet Cyngor Caerdydd nawr wedi dweud eu bod yn "annhebygol iawn" o fwrw ymlaen â'r cynlluniau yn eu ffurf presennol.
Ymgynghori eto
Roedd y rheolau newydd arfaethedig yn rhan o ymgais i warchod mannau cyhoeddus rhag perchnogion cŵn anghyfrifol.
Ond mynnodd ymgyrchwyr y byddai'r cynigion yn cosbi'r mwyafrif cyfrifol, ac nad oedd angen gwaharddiad llawn ar draws holl gaeau chwarae Caerdydd.
Byddai'r cynllun hefyd wedi golygu cynyddu'r ddirwy ar gyfer unrhyw un oedd ddim yn glanhau ar ol eu cŵn o £80 i £100.
Er na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan y flwyddyn newydd, mae disgwyl i'r cyngor nawr ymgynghori ymhellach gyda pherchnogion cŵn a chlybiau chwaraeon ar gynlluniau newydd.
"Roeddwn i wastad yn dweud y bydden i'n bod yn deg ac yn barnu'r peth ar sail yr ymgynghoriad," meddai Peter Bradbury, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden ar y cyngor.
"Mae'r ymgynghoriad wedi bod yn glir fod consensws yn erbyn gwaharddiad llwyr ar gaeau chwaraeon wedi'u marcio."
Ychwanegodd y byddai'r gwaharddiad ond wedi effeithio ar "10% o'r ardaloedd gwyrdd agored yn y ddinas", ac y byddai perchnogion cŵn dal wedi gallu mynd a'u hanifeiliaid am dro pan nad oedd y caeau'n cael eu defnyddio y tu allan i'r tymor chwaraeon.
'Grym y bobl'
Dywedodd Jayne Cowan, sy'n gynghorydd Ceidwadol yn Rhiwbeina, fod "cryfder y teimladau" yng Nghaerdydd ar y mater yn glir.
"Dylai unrhyw un sy'n cael eu dal yn gadael i'w cŵn adael baw gael eu trin yn y modd mwyaf llym posib. Mae angen bod yn gadarn," meddai.
"[Ond] dwi'n meddwl bod yr orymdaith a'r nifer uchel o bobl wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad wedi chwarae rhan fawr.
"Mae wedi dangos grym y bobl ac fe hoffwn i longyfarch pawb oedd yn rhan ohoni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2018