Cwpan FA: Wrecsam 2-0 Harrogate Town

  • Cyhoeddwyd
Cwpan FAFfynhonnell y llun, PA

Fe sgoriodd Akil Wright ei gôl gyntaf dros Wrecsam i helpu'r Dreigiau i rownd gyntaf Cwpan FA.

Yn dilyn gêm ddi-sgôr rhwng y timau dros y penwythnos, roedd goliau gan Wright a Luke Young yn ddigon i selio lle Wrecsam yn y rownd nesaf.

Dyma'r tro cyntaf mewn pedwar tymor i Wrecsam gyrraedd rownd gyntaf Cwpan FA.

Byddan nhw'n chwarae Weston-super-Mare yn y rownd honno.