Rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin 'i gostio £775m'

  • Cyhoeddwyd
gorsaf AberystwythFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gallai ailadeiladu ac ailagor y lein gostio £600m

Mae adroddiad wedi awgrymu bod ailagor y lein rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn bosib, ond y byddai hynny ar gost o hyd at £775m.

Cafodd adroddiad dichonoldeb ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2016 ar ôl pwysau gan ymgyrchwyr i ailagor y lein gafodd ei chau yn 1965.

Mae'r adroddiad gan y grŵp peirianyddol Mott MacDonald hefyd yn dweud y byddai angen mynd i'r afael â gofynion amgylcheddol.

Roedd yna fwy na 20 o orsafoedd ar yr hen lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fap o lwybr y rheilffordd arfaethedig

Dywedodd Adrian Kendon ar ran y grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r cyfyngiadau amgylcheddol sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad, ac er bod hyn yn edrych yn gost uchel mae'n rhaid cofio bod prosiectau ffyrdd diweddar yng Nghymru wedi costio llawer mwy.

"Bydd y gost o ledu ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn £850m gyda disgwyl i dros £1bn gael ei wario ar y cynllun arfaethedig i liniaru'r M4 yn ardal Casenwydd.

"Byddai'r cynllun yma'n cysylltu gogledd a de Cymru ac yn hwb i'r economi yn y gorllewin."

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i roi hyd at £30,000 ar gyfer yr astudiaeth i asesu'r posibilrwydd o ailagor y lein, gyda'r amcangyfrif gwreiddiol yn dweud y gallai'r cynllun gostio £600m.