Ficer 82 oed yn colli'i drwydded i gynnal gwasanaethau
- Cyhoeddwyd
Mae offeiriad 82 oed o Ddyffryn Aeron wedi dweud ei fod wedi siomi ar ôl clywed na fydd yn medru cynnal gwasanaethau mwyach am resymau yswiriant yn ymwneud â'i oedran.
Mae'r Parchedig John Emrys Jones wedi cael llythyr gan Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, yn dweud nad oes yswiriant personol ar gyfer damweiniau i gwmpasu pobl dros 80 oed sydd yn gwasanaethu.
Ar hyn o bryd, mae offeiriaid sydd wedi ymddeol yn medru gwasanaethu os ydyn nhw'n cael trwydded flynyddol gan yr Esgob.
Cafodd y Parchedig Jones wybod mewn llythyr y bydd ei drwydded yn dod i ben ar 31 Ragfyr eleni.
Mae wedi bod yn cynnal gwasanaethau mewn pedair eglwys yn Nyffryn Aeron - Cilcennin, Ystrad Aeron, Trefilan a Chribyn - er ei fod wedi ymddeol fel offeiriad llawn amser ers 2007.
"Yr unig beth o'n i am oedd cynorthwyo, felly fe wnes i wirfoddoli ar ôl ymddeol," meddai.
Mae wedi bod yn cynnal gwasanaethau ers hynny.
"Fe ges i lythyr oddi wrth yr Esgob yn dweud ei bod hi yn dileu fy nhrwydded ar 31 Rhagfyr ac na fyddaf i yn anffodus yn gallu cynnal gwasanaethau o fewn yr Eglwys ar ôl y dyddiad hwnnw," meddai'r Parchedig Jones.
"Roedd darllen y llythyr yn siom mae'n rhaid i mi gyfaddef."
Yn ôl y Parchedig Jones, fe fydd y penderfyniad yn "cau eglwysi" gan y bydd llai o offeiriaid yn cynnal gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig ar sail wirfoddol.
Dywedodd ei fod eisoes wedi cynnal 36 o wasanaethau eleni.
Mae'r Parchedig Jones hefyd wedi cynnal gwasanaethau mewn capeli anghydffurfiol yn yr ardal, ac fe fydd yn parhau, meddai, i wneud hynny ar ôl diwrnod ola' mis Rhagfyr.
Un sydd yn feirniadol o'r penderfyniad ydy Beti Davies, un o blwyfolion Felin-fach.
"Fel plwyfolion ry'n ni wedi cael cymaint o siom, i ni ac iddyn nhw, o achos bod nhw wedi rhoi cymaint o wasanaeth i ni fel plwyfi, a bod eu trwydded nhw'n dod i ben a'u hawl i wasanaethu," meddai.
"Mae eu gwasanaeth nhw yn amhrisiadwy i ddweud y gwir."
Ychwanegodd: "Mae cymaint o rai sydd dros yr oedran arbennig hwn, pwy sy' am gynnal y gwasanaethau?"
Mewn datganiad i Newyddion 9, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod nhw wedi cael cyngor pellach, a'u bod nawr yn gobeithio "darganfod datrysiad fydd yn caniatáu i bobl i wasanaethu'r Esgobaeth".