Dyfodol un o glybiau tenis mwyaf Cymru yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon ynglŷn â dyfodol un o glybiau tenis mwyaf Cymru.
Mae prydles Clwb Tenis yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019, ac mae pryderon bod y perchnogion presennol am geisio datblygu'r tir.
Mae'r clwb wedi bod yn y gymuned am dros ganrif ac ar ei safle presennol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
I geisio codi ymwybyddiaeth am y sefyllfa mae'r clwb yn trefnu cyfarfod cyhoeddus nos Iau.
Yn ôl Aled Roberts, ysgrifennydd aelodau'r clwb, mae'r sefyllfa'n un bryderus.
"Mae 'na lease ar y clwb sydd gyda pherchnogion preifat ac mae lease y clwb yn dod i ben a 'da ni'n poeni'n fawr iawn oherwydd dyw'r perchnogion ddim yn fodlon dod i siarad gyda ni i ynglŷn ag ymestyn y lease ymhellach."
Mae BBC Cymru wedi gwneud sawl cais am sylw gan y perchnogion.
'Colled i'r ysgol a'r gymuned'
Gyda mwy na 300 o aelodau, mae'r clwb yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru ac mae'r cyrtiau'n cael eu defnyddio'n aml gan ysgolion lleol.
Un o'r ysgolion hynny yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.
Dywedodd pennaeth adran addysg gorfforol yr ysgol, Gwyn Morris: "Mae'r clwb yn eithriadol o bwysig i'r ysgol, mae gyda'r ysgol gyfleusterau ardderchog ond dim cyfleusterau tenis.
"Yn yr haf dyna le 'da ni'n 'neud ein holl ymarfer a hyfforddi ac yn chwarae ein gemau cartref. Bysa colled y clwb yn fawr dim ond i'r ysgol ond i'r gymuned i gyd."
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn y clwb nos Iau.