Ffigyrau gwrando 'isaf erioed' i BBC Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
Cyflwynwyr Radio Wales
Disgrifiad o’r llun,

Jason Mohammad, Eleri Sion a Wynne Evans - tri o gyflwynwyr BBC Radio Wales

Mae ffigyrau gwrando BBC Radio Wales wedi cyrraedd eu lefel isaf ers i gofnodion ddechrau.

Yn ôl y corff sy'n casglu'r data, RAJAR, roedd cyfartaledd o 317,000 o bobl yn gwrando yn wythnosol rhwng Gorffennaf a Medi.

Mae hynny'n gwymp o 50,000 ar y chwarter blaenorol, a 23,000 yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Yn y cyfamser mae cynnydd wedi bod yn nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru, gyda 7,000 yn fwy yn gwrando na'r cyfnod blaenorol, sy'n gynnydd o 18,000 o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru eu bod nhw'n ystyried y ffigyrau i gyd ac yn ceisio cynnig y cynnwys gorau i'r gynulleidfa.

Mae'r ffigwr ar gyfer nifer y gwrandawyr wythnosol yn cynrychioli'r cyfanswm o wrandawyr dros 15 oed sy'n gwrando am o leiaf pum munud.

Nid yw'n cynnwys podlediadau na ffigyrau gwrando ar alw.