Talu cyfanswm o dros £300,000 i ASEau Cymru wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Derek Vaughan, Jill Evans, Nathan Gill a Kay Swinburne
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Seneddol Ewropeaidd Cymru (chwith i dde): Derek Vaughan, Jill Evans, Nathan Gill a Kay Swinburne

Fe fydd un o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Cymru'n derbyn hyd at €163,609 wedi i'r DU adael yr UE.

Mae swyddogion yn Strasbwrg wedi dweud wrth y 73 ASE sy'n cynrychioli'r DU - gan gynnwys y pedwar o Gymru - y byddan nhw'n cael yr un buddiannau ar ôl Brexit ag unrhyw un arall sy'n gadael Senedd Ewrop.

Mae disgwyl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019.

Mae'r rheolau presennol yn golygu bod ASEau yn derbyn mis o gyflog - €8,611 cyn treth - am bob blwyddyn lawn yr oedden nhw yn y swydd.

'Eisiau parhau â'r gwaith'

Gan ei bod hi wedi bod yn ASE ers 1999, fe fydd Jill Evans o Blaid Cymru wedi bod yn ei swydd am 19 mlynedd erbyn Mawrth 2019 ac felly'n derbyn €163,609 cyn treth (tua £144,710).

Bydd Derek Vaughan o'r blaid Lafur a Kay Swinburne o'r Ceidwadwyr yn cael €77,499 (£68,547) yr un, ar ôl cael eu hethol i Senedd Ewrop yn 2009.

Er mai dim ond ers 2014 y mae Nathan Gill wedi bod yn ASE, fe fydd o'n cael €51,666 (£45,698) gan fod ASEau sy'n gadael yn derbyn o leiaf chwe mis o dâl.

Mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd sy'n mynd ymlaen i eistedd mewn deddfwriaethau eraill yn gweld gostyngiad yn y taliadau.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae 751 o ASEau yn Senedd Ewrop

Yn ogystal â'r taliadau hynny, mae ASEau hefyd yn gymwys i dderbyn:

  • tri thaliad misol o €2,200 er mwyn eu helpu nhw i gau eu swyddfeydd;

  • treuliau ar gyfer eu siwrnai olaf adref;

  • hyd at 15 bocs cardfwrdd er mwyn cludo eu pethau.

Dywedodd Derek Vaughan wrth BBC Cymru: "Dyma'r pecyn gafodd ei gytuno arno gan y senedd - bydd pob ASE yn derbyn y symiau hyn.

"O fy safbwynt i dwi'n gobeithio na fydd Brexit yn digwydd ac y byddai'n medru parhau gyda fy ngwaith fel ASE."

'Credu mewn Brexit'

Dywedodd Nathan Gill: "Dyma yw'r pecyn diswyddo y mae pob ASE yn ei gael, waeth pa blaid maen nhw'n perthyn iddo.

"Roedden ni wir yn dyrcwn wnaeth bleidleisio dros y Nadolig.

"Roedden ni'n credu mewn Brexit ac yn gwybod beth roedden ni eisiau allan o hyn."

Gwrthododd Jill Evans gais am ymateb, ac mae Kay Swinburne wedi cael cais i ymateb.

Mae ASEau yn gymwys i ddechrau hawlio pensiwn gan yr UE pan maen nhw'n 63 oed.