Pryder Carwyn Jones wedi rhybudd Ford am Brexit

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru yn "bryderus" yn dilyn rhybuddion gan Ford y gallai Brexit heb gytundeb gael effaith ar ddyfodol y cwmni yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd "unrhyw un call" yn galw am Brexit heb gytundeb, a galwodd ar drafodwyr y DU a'r UE i ddangos "hyblygrwydd" er mwyn cyrraedd cytundeb.

Dywedodd Theresa May wrth aelodau ei chabinet ddydd Mawrth bod cytundeb o fewn gafael os ydy'r llywodraeth yn "sefyll yn gadarn".

Ond mae'r UE wedi tawelu gobeithion y gallai cytundeb ddod yn ystod uwchgynhadledd sy'n dechrau heddiw.

Roedd trafodwyr ar y ddwy ochr wedi rhagweld y byddai'r cyfarfod deuddydd o arweinwyr gwledydd yr UE ym Mrwsel yn gyfle i gyrraedd cytundeb ar ymadawiad y DU â'r UE.

Ond gyda dyfodol y ffin Wyddelig yn parhau i achosi cur pen, dywedodd Llywydd Cyngor Ewrop Donald Tusk nad oedd ganddo unrhyw sail i fod yn obeithiol y bydd datrysiad yr wythnos hon.

Heb gytundeb ar bolisi yswiriant i gadw ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, fydd yna ddim cytundeb Brexit rhwng y DU a'r UE.

Rhybudd Ford

Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai angen i'r ddwy ochr gyfaddawdu er mwyn rhoi sicrwydd i fyd busnes, ac mai Brexit heb gytundeb sy'n poeni busnesau fwyaf.

Ddydd Llun dywedodd pennaeth Ford yn Ewrop, Steven Armstrong wrth y BBC y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus" i ddiwydiant ym Mhrydain ond ei fod yn "hyderus o hyd" bod modd ffurfio cytundeb masnach heb dollau.

Mae Ford yn cyflogi bron i 2,000 o weithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef etholaeth Carwyn Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steven Armstrong y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus"

Dywedodd Mr Jones: "Maen nhw'n gyflogwyr mawr yn fy nhref fy hun ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydyn ni'n gweld cwmnïau eraill yn teimlo'r un ffordd, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n cael cytundeb da - fel nad ydyn ni'n ei gwneud hi'n fwy anodd i'n busnesau ni weithgynhyrchu a gwerthu i farchnad Ewrop.

"Does dim ffordd hawdd nawr. Mae Theresa May wedi rhoi ei chardiau ar y bwrdd ac mae'n rhaid iddi gyrraedd cytundeb nawr sy'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen achos dim ond chwarae o gwmpas sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Dwi'n meddwl taw'r broblem fydd cael y cytundeb drwy'r Senedd. Mae'n bosib y gall Theresa May ddod 'nôl gyda chytundeb ond a fydd hi'n gallu cael cefnogaeth ei chydweithwyr yn San Steffan?"

'Posibilrwydd cynyddol'

Dywedodd yr AS Ceidwadol Chris Davies, sy'n aelod o'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd sy'n cefnogi Brexit, na fyddai'n bosib i Theresa May blesio pob Ceidwadwr.

Ychwanegodd AS Brycheiniog a Maesyfed: "Byddai'n well gen i gael cytundeb, yn sicr. Ry'n ni'n mynd i orfod cael agwedd pragmatig a gwneud yr hyn sydd orau dros ein hetholwyr ni."

Ac yn ôl David Jones, AS Gorllewin Clwyd a'r cyn-weinidog Brexit: "Mae Theresa May yn wydn ac mae'n dweud cryn dipyn amdani ei bod yn parhau i drafod ar ôl y driniaeth wael gafodd hi gan yr arweinwyr eraill yn Salzburg.

"Ond rwy'n amau a fydd yna gynnydd o bwys yn y cyfarfod yma. Bydd y trafod y parhau tan y funud olaf, ac mae Brexit heb gytundeb yn bosibilrwydd cynyddol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan Lyttle yn byw a gweithio ar y ffin

Yn ogystal â chytuno ar bolisi yswiriant ar gyfer y ffin Wyddelig mae angen i drafodwyr y DU a'r UE gytuno hefyd ar fraslun cynllun ar gyfer dyfodol y berthynas rhyngddyn nhw.

Mae syniadau Theresa May - gafodd eu cytuno gyda'i chabinet yn Chequers ym mis Gorffennaf - wedi creu rhaniadau o fewn y blaid Geidwadol gan arwain at ymddiswyddiadau Boris Johnson a David Davis o'r cabinet.

Mae'r cyn-weinidog Brexit Steve Baker wedi dweud y gallai hyd at 40 o ASau Ceidwadol wrthwynebu'r cynllun Chequers os taw dyna fydd sail unrhyw gytundeb gyda Brwsel.

Mae arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Paul Davies, wedi dweud ei fod yn cefnogi cynllun Chequers ac mae wedi galw ar ei gydweithwyr i "gefnogi'r Prif Weinidog".

Dywedodd AC Preseli Penfro: "Rwy'n hyderus o siarad gyda llawer o'm cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf y byddai'r Prif Weinidog yn gallu cael cytundeb drwy Dŷ'r Cyffredin."

Cymraes ar ffin Iwerddon

Mae Gwenan Lyttle yn byw ar ochr Gogledd Iwerddon y ffin, ym mhentref Pettigo, ond mae hi a'i gŵr yn ffermio yn y Weriniaeth.

Dywedodd Ms Lyttle, sy'n wreiddiol o Dregaron yng Ngheredigion: "Ry'n ni'n croesi'r ffin bedair neu pum gwaith y dydd... mae'n anodd ffermio ar y ffin ac mae'n rhaid cadw'r bunt a'r ewro yn eich poced.

"Ro'n i'n meddwl y byddai popeth wedi sortio o fewn rhai misoedd a dweud y gwir - doeddwn i ddim yn sylweddoli y byddai pethe'n mynd ymlaen gyhyd.

"Ry'n ni'n dal i ddyfalu beth maen nhw'n mynd i wneud a sut mae'n mynd i weithio i ni.

"Mae pobl wedi cael digon o glywed y gair 'Brexit' achos mae e wedi bod yn mynd ymlaen am gymaint o amser ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw un yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd."