Ficer 'rhy hen' â'r hawl i barhau i gynnal gwasanaethau

  • Cyhoeddwyd
John Emrys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Parchedig John Emrys Jones wedi cael gwybod bod ei drwydded yn dod i ben ddiwedd Rhagfyr

Bydd hawl gan offeiriad o Ddyffryn Aeron i barhau i gynnal gwasanaethau, er iddo gael gwybod na fyddai hynny'n bosib oherwydd ei oed.

Dywed yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn hyderus, ar ôl cael cyngor cyfreithiol, bod eu trefniadau yswiriant personol ar gyfer damweiniau yn cwmpasu pobl dros 80 oed sy'n gwasanaethu.

Mae hynny'n golygu bod hawl felly i'r Parchedig John Emrys Jones barhau i gynnal gwasanaethau er iddo gael llythyr gan Esgob Tyddewi yn dweud y byddai ei drwydded yn dod i ben ar 31 Ragfyr eleni.

Mae'r Eglwys wedi ymddiheuro am achosi "gofid a dryswch" ac yn cysylltu â nifer o unigolion a gafodd eu heffeithio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys: "Mae Esgobaeth Tyddewi yn cymryd diogelwch rheiny sy'n gweithio o fewn yr eglwys o ddifrif ac yn ddiweddar mae wedi bod â phryderon am y ddarpariaeth yswiriant yn achos rheiny dros 80 oed sy'n gwasanaethu yn ein heglwysi.

'Gwasanaeth gwerthfawr'

"Yn dilyn cyngor cyfreithiol rydym bellach yn hyderus bod ein holl offeiriaid wedi eu hyswirio'n ddigonol, beth bynnag eu hoedran, a bydden nhw'n gallu parhau â'u gwasanaeth gwerthfawr, yr ydym yn ddiolchgar iawn i'w gael.

"Rydym yn ysgrifennu at bawb oedd yn cael eu heffeithio ac rydym yn ymddiheuro am y gofid a'r dryswch a gafodd ei achosi."

Dywed y Parchedig Jones ei fod wedi derbyn y llythyr diweddaraf gan yr Esgobaeth, ac er nad yw'n "beio neb" am y sefyllfa, mae'n "siomedig" na fu ymgynghoriad cyn danfon y llythyr cyntaf.

Pan ddisgrifiodd ei siom wrth ddarllen y llythyr gwreiddiol gan y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, dywedodd ei fod yn ofni y byddai eglwysi'n cau yn sgil cael llai o offeiriaid i gynnal gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig ar sail wirfoddol.

Mae offeiriaid sydd wedi ymddeol yn cael gwasanaethu os ydyn nhw'n cael trwydded flynyddol gan yr Esgob, ac mae'r Parchedig Jones wedi parhau i wneud hynny mewn pedair eglwys yn Nyffryn Aeron ers ymddeol fel offeiriad llawn amser yn 2007.