Llys yn cael dyn yn euog o dwyllo arian o'r GIG

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty BronllysFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwmni George Morgan Ltd i fod wedi gwneud gwaith adeiladu yn Ysbyty Bronllys

Mae dyn 42 oed wedi ei gael yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful am dwyllo dros £700,000 o'r GIG.

Roedd Michael Cope yn gwadu sicrhau bod cytundebau gwaith adeiladu yn cael eu rhoi i gwmni ffug tra'n gweithio fel rheolwr gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn 2015.

Mae Mark Evill a Robert Howells - cyd-reolwyr Cope yn y bwrdd iechyd - eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o dwyll, ac mae'r rheithgor bellach wedi gwrthod amddiffyniad Cope nad oedd yn ymwybodol o'r cynllwyn.

Bydd y tri diffynnydd yn cael eu dedfrydu ar 2 Tachwedd.

Clywodd y llys bod Evill wedi sefydlu cwmni George Morgan Ltd gyda'r bwriad o fanteisio ar ei swydd i sicrhau cytundebau gwaith.

Er mwyn cuddio'i gysylltiad gyda'r cwmni, fe ddefnyddiodd yr enwau Paul Hewson a David Evans mewn gohebiaeth - enwau go iawn y canwr Bono a'r gitarydd The Edge o'r grŵp U2.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr erlynydd wedi dweud bod defnydd Evill o enwau aelodau U2 'yn arwydd o dwyll haerllug a herfeiddiol'

Roedd safon gwaith y cwmni mor wael, fe gostiodd y twyll £1.4m i'r trethdalwr ei gywiro.

Clywodd y rheithgor fod Evill wedi gwario elw'r cwmni ar wyliau yn Dubai, eiddo, sawl oriawr drud a cheir, gan gynnwys car gwerth £10,000 i Howells am gynorthwyo'r twyll.

Roedd yr erlyniad yn dadlau bod Cope wedi derbyn siec o £500 gan gwmni George Morgan Limited am ei ran mewn rhoi cytundebau i'r cwmni ffug.

Honnodd Cope bod arian yn ddyledus iddo am waith roedd wedi ei gwblhau a'i fod heb edrych i weld pwy oedd wedi arwyddo'r siec.

Honnodd hefyd mai tynnu coes oedd o mewn neges destun yng Ngorffennaf 2015 yn anghytuno ag awgrym gan Evill ynghylch y posibilrwydd o "roi amlen" i ddyn arall "gadw'n dawel".

Mae'r Barnwr Peter Heywood wedi canmol swyddogion atal twyll y GIG am eu gwaith i sichrau bod yr achos yn cyrraedd y llys.