Ffarwel i Flynn

  • Cyhoeddwyd

Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghasnewydd yn 1988 roedd hi'n nodweddiadol am sawl reswm. Roedd hi'n 90 mlynedd ers i'r Eisteddfod ymweld â'r ddinas, neu'r dre fel oedd hi bryd hynny. Am y tro cyntaf ers degawdau, pabell nid pafiliwn oedd yn galon i'r maes ac fe gyfareddwyd y gynulleidfa gan araith un o lywyddion y dydd, yr aelod seneddol lleol, Paul Flynn.

Teg yw dweud, rwy'n meddwl, nad oedd Paul yn ffigwr cyfarwydd i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg cyn yr Eisteddfod honno. Ar ei hôl hi roedd e ym mhobman yn taranu dros gyfres o achosion asgell chwith a Chymreig gan ddweud ei ddweud yn ddiflewyn yn dafod ac yn ddiofn.

Dyw newyddiadurwyr gwleidyddol fel fi ddim i fod i enwi'n ffefrynnau ymhlith gwleidyddion ond rhaid i mi gyfaddef fy mod yn arbennig o hoff o Paul fel person ac fel gwleidydd.

Trist oedd clywed felly ei fod yn gorfod rhoi'r ffidl yn y to oherwydd cyflwr ei iechyd. Ers degawdau bu'n brwydro yn erbyn crydcymalau ac iselder. Mae'r ffaith ei fod wedi cadw i fynd cyhyd yn dyst i gryfder ei gymeriad.

Mae llythyr Paul i aelodau ei blaid wedi ei geirio'n ofalus iawn ond yn y bôn mae Paul yn eu rhybuddio nad yw'n rhagweld gallu cynrychioli'r etholaeth am weddill y Senedd hon, oni ddaw etholiad cyffredinol cynnar.

Y casgliad anorfod felly yw y bydd 'na isetholiad yng Ngorllewin Casnewydd rhyw ben a gellir disgwyl i hwnnw fod yn gythraul o ornest. Heb bresenoldeb Paul, a'i bleidlais bersonol sylweddol fe fydd yn rhaid i Lafur gwffio'n galed i'w chadw hi, ac fe fyddai ei cholli yn ergyd difrifol i'r blaid.

Cofiwch dyw isetholiadau allweddol yn ddim byd newydd i Gasnewydd. Yn ôl yn 1922 fe arweiniodd isetholiad Casnewydd at dranc clymblaid Lloyd George a chwalu'r hen blaid Ryddfrydol. Tybed a fyddai isetholiad yng Ngorllewin Casnewydd yn cael yr un fath o effaith?