Brexit: Pryder myfyrwraig milfeddygaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Teleri James yn astudio milfeddygaeth yn y Weriniaeth Siec

Mae dyfodol trafodaethau Brexit a'r holl ansicrwydd presennol yn achosi penbleth i rai myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig sy'n astudio dramor.

Ymhlith y rhai sy'n pryderu mae Teleri James, merch fferm o Gilrhedyn yng ngogledd Sir Benfro sy'n astudio milfeddygaeth mewn prifysgol yn y Weriniaeth Siec.

Tydi hi ddim yn gwybod a fydd angen iddi gael fisa neu ddogfennau eraill fis Mawrth nesaf, pan ma' disgwyl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Ms James ar ei phedwaredd flwyddyn yn astudio milfeddygaeth mewn prifysgol yn ninas Brno yn y Weriniaeth Siec.

Gyda blwyddyn gyflawn arall i'w chwblhau, hi yw'r unig un o Gymru ar y cwrs gyda nifer fechan o fyfyrwyr o wledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Gyda mis Mawrth yn agosáu, pan fo disgwyl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Teleri wedi bod yn ceisio darganfod a fydd hynny yn amharu ar ei hastudiaethau.

"Y peth sy'n drysu fi mwya yw'r diffyg gwybodaeth ni'n cael.

"Rwy wedi bod yn wylo'r we, gofyn i bobl ac mae just mor anodd cael gwybodaeth am y rheswm dyw'r penderfyniadau heb gael eu gwneud eto ac mae e' gyd lawr i'r cytundeb fyddwn yn ei gael ym mis Mawrth - os gewn ni gytundeb."

Disgrifiad o’r llun,

Meinir James: Cyfnod ansefydlog

I fam Teleri, Meinir James, mae'n gyfnod ansefydlog.

"Mae hi'n dod 'mlaen yn iawn, ma' hi yn hapus 'na - ond o ran y dyfodol ni yn bryderus o ran beth sy'n mynd i ddigwydd.

"A fydd hi'n gallu parhau i astudio yn y Weriniaeth Siec?"

Ac mae yna ansicrwydd ehangach ar y fferm yng Nghilrhedyn gyda'r teulu James yn cyflogi gweithiwr fferm o Rwmania.

"Mae un gweithiwr o Rwmania wedi bod gyda ni ers dwy flynedd ac maen nhw'n teimlo dipyn o bryder, achos maen nhw mo'yn aros a ddim yn gwybod beth sydd ddigwydd ar hyn o bryd - ac felly ma' 'na ansicrwydd yma hefyd," meddai Mrs James.

Wrth ymateb i sefyllfa Teleri James, nododd y Swyddfa Dramor taw'r awdurdodau yn y wlad lle mae rhywun yn aros sy'n gyfrifol am osod a gweithredu'r rheolau ar gyfer mynediad.

Ychwanega'r datganiad bod yn rhaid cysylltu á Llysgenhadaeth y Weriniaeth Siec os oes ansicrwydd.