Traddodiad Celtaidd 'Diwrnod y Meirw'
- Cyhoeddwyd
Mae ffilmiau plant fel 'Coco' a 'Book of Life' wedi poblogeiddio penglogau a gwisgoedd ffansi Mecsicanaidd sydd i'w gweld ym mhob man adeg Calan Gaeaf bellach.
Ond wrth i ni wirioni ar symboliaeth Diwrnod y Meirw (Día de Muertos) ydyn ni'n esgeuluso ein traddodiadau tebyg ein hunain ynglŷn â Chalan Gaeaf?
Mae Diwrnod y Meirw yn Mecsico yn ŵyl hynafol i deuluoedd gofio ffrindiau a theulu sydd wedi marw a'u helpu ar eu taith ysbrydol drwy'r byd arall.
Mae rhai yn beirniadu'r ffordd mae'r traddodiad yma wedi ei 'ddwyn' gan ŵyl fasnachol Halloween ac yn pwysleisio nad eu fersiwn nhw o'r Calan Gaeaf cyfoes ydy Diwrnod y Meirw: mae'n digwydd ar 2 Tachwedd, nid 31 Hydref, ac mae'n ddathliad o'r anwyliaid sydd wedi ein gadael, nid noson i godi bwganod a bod ofn.
Yng Nghymru, traddodiad ein cyndeidiau oedd bod y ffin rhwng ein byd ni a'r byd arall, byd y meirw, yn diflannu ar noson Calan Gaeaf ac ysbrydion da, a drwg, yn cerdded yn ein mysg.
Mae'r elfennau Celtaidd yma o ddathlu'r meirw a'r byd arall yn cael eu cyflwyno mewn dwy sioe Galan Gaeaf i blant ddiwedd Hydref a dechrau Tachwedd 2018.
Mae sioe Dygwyl y Meirw, dolen allanol sydd ar daith yng ngogledd Cymru yn cael ei disgrifio fel dathliad o chwedlau ein hynafiaid, o gylch bywyd, ac o sut mae hogan fach yn dod i delerau â marwolaeth ei thaid.
"'Dani'n meddwl am Day of the Dead fel rhywbeth Mecsicanaidd ond mae Dygwyl y Meirw yn dyddio nôl i adeg y Celtiaid hefyd," meddai Angela Roberts o gwmni Seren Ddu a Mwnci sy'n cynnal y sioe.
"Yn Galicia, sy'n dyddio nôl i'r Celtiaid cynnar, mae ganddyn nhw rywbeth tebyg iawn i Day of the Dead. Mae'r dathliadau Calan Gaeaf yn mynd ymlaen am sawl diwrnod ac maen nhw'n cofio am y bobl sydd wedi marw ac yn mynd i'r mynwentydd.
"Mae'n ddathliad, ddim yn amser i fod yn drist ond yn amser i allu dweud pethau wrth eich perthynasau sydd wedi mynd.
"Mae'n bosib mae'r Celtiaid ddechreuodd y traddodiad Calan Gaeaf filoedd o flynyddoedd yn ôl."
Drws rhwng dau fyd yn agor
"Roedd y noson yma'n nodi diwedd yr haf a dechrau'r gaeaf i'r Celtiaid: diwedd un amser a dechrau un arall - mae na ddrws rhwng dau fyd yn agor i adael ysbrydion - y rhai sydd wedi marw - drwadd, jyst am un noson yn unig, i fyd y rhai byw," meddai Angela Roberts.
"Yn y sioe mae'r ferch fach newydd golli ei thaid felly mae hi'n gobeitho gweld ei thaid eto.
"Roedd y Celtiaid yn gweld y flwyddyn yn gylch o ddau hanner - hanner y golau a hanner y tywyllwch - ac roedden nhw'n adeiladu coelcerth mawr ar y noson honno er mwyn dychryn yr ysbrydion drwg i ffwrdd a chael yr ysbrydion da i ddod yn ôl atyn nhw.
"Rydw i wedi darllen eu bod nhw'n gwisgo mewn crwyn anifeiliaid ac yn dawnsio drwy'r nos o gwmpas y tân. Roedden nhw'n gweld y tân fel rhyw fath o haul tanllyd ac yn dathlu yn y gobaith y bydd yr haul yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf.
"Doedden nhw ddim yn ddigalon o gwbl wrth feddwl am bobl sydd wedi marw ond yn ei weld fel cyfle i gofio amdanyn nhw, a bod efo nhw unwaith eto."
Brenin yr isfyd
Yn y traddodiad Mecsicanaidd, Mictēcacihuātl, brenhines y meirwon, sy'n rheoli byd y meirw.
Ond yn y traddodiad Cymreig, Arawn yw brenin yr isfyd, sef Annwn.
Yn chwedl Pwyll a Rhiannon yn y Mabinogi mae Pwyll yn newid lle am flwyddyn gydag Arawn ac yn rheoli Annwn, sef y byd arall Celtaidd.
Enw arall ar Arawn yn y traddodiad Cymraeg ydy Gwyn ap Nudd, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel brenin y Tylwyth Teg.
Mae cyflwyniad a gweithdy i blant am Gwyn ap Nudd wedi ei greu ar gyfer Calan Gaeaf yn Galeri, Caernarfon.
"Yn ôl ein chwedloniaeth, Gwyn ap Nudd sy'n mynd ag eneidiau'r meirw i Annwn neu'r byd arall, fo hefyd ydy Brenin y Tylwyth Teg," meddai'r disgrifiad o'r digwyddiad sydd wedi ei greu gan Gwilym Morus-Baird a Rebecca Hardy.
Bydd plant yn cael addurno penglog gyda phatrymau Celtaidd - symboliaeth sy'n ein hatgoffa o'r traddodiad Mecsicanaidd.
'Adref adref am y cyntaf'
Bydd sioe Dygwyl y Meirw yn cyflwyno cymeriadau traddodiadol Gymreig eraill fel y Ladi Wen, Ci Gwyn y Fynwent a'r Hwch Ddu Gota, sef mochyn du oedd yn dod o wreichion y tân ac yn bwyta'r sawl oedd ar ôl o gwmpas y goelcerth ar ddiwedd y nos.
Dipyn o hwyl rownd y goelcerth yng nghanol y nos yn yr hydref a'r plant allan yn hwyr oedd hyn mae'n debyg meddai Angela.
"Mae'n debyg bod yr Hwch Ddu Gota a'r rhigwm sy'n gysylltiedig efo hi wedi cael eu cyfansoddi er mwyn cael y plant bach i'w gwlâu ar ôl y parti - 'Adref adref am y cyntaf, Hwch Ddu Gota gipia'r olaf.
"Mae wedi mynd yn fasnachol erbyn hyn ond mae'r sioe yn trio cael dipyn o'r hwyl a'r teimladau iasoer yna nôl.
"Ond ar yr un pryd dangos bod yna neges fwy dwys ac mai dyna ydi tarddiad y traddodiad yn y lle cyntaf."
Efallai o ddiddordeb