Pro14: Gweilch 22-17 Connacht

  • Cyhoeddwyd
Cae'r BragdyFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r Gweilch symud i Gae'r Bragdy am fod Abertawe yn chwarae'n erbyn Reading yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn

Roedd hi'n fuddugoliaeth i'w chroesawu i'r Gweilch yn erbyn Connacht ym Mhen-y-Bont nos Wener diolch i gais yn yr eiliadau olaf.

Roedd y Gweilch wedi bod ar y blaen o 17-3 ond fe ddaeth y Gwyddelod yn ôl gyda dau gais i wneud y sgôr yn 17-17.

Ond fe sgoriodd Dan Evans gyda'r cloc wedi mynd heibio'r 80 i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws i'r Gweilch.

Cafodd yr asgellwr Keelan Giles ddau gais yn yr hanner cyntaf, gyda'r mewnwr ifanc Harri Morgan yn sgorio trydydd ar ei ymddangosiad llawn cyntaf i'r rhanbarth.

Aeth y tîm cartref lawr i 14 dyn hefyd yn dilyn cerdyn melyn i Rob McCusker am dacl uchel.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Keelan Giles, 21, heb ennill cap rhyngwladol dros Gymru er iddo gael ei alw i'r garfan sawl gwaith

Hon oedd y gêm gartref gyntaf i'r Gweilch chwarae yng Nghae'r Bragdy yn y gynghrair.

Cafodd blaenasgellwr Cymru, Dan Lydiate, ei ryddhau gan dîm hyfforddi'r tîm cenedlaethol ar gyfer y gêm er mwyn cael mwy o amser chwarae.